Mae cyllid pellach wedi cael ei sicrhau i ddatblygu Neuadd y Farchnad Aberteifi.

Bydd Prosiect Neuadd y Farchnad Aberteifi yn hwyluso’r gwaith adnewyddu, atgyweirio a diweddaru cyfleusterau ar gyfer adeilad hanesyddol gradd 2* Neuadd y Farchnad, gan sicrhau ei ddyfodol a’i gynaliadwyedd hirdymor i fasnachwyr a chyfleoedd ar gyfer mentrau newydd. 

Bydd y prosiect yn mynd i'r afael â rhai o’r gwelliannau strwythurol sy’n ofynnol ar gyfer yr adeilad a fydd hefyd yn gwella apêl a chyfraniad cyffredinol i hyfywedd y dref.

Cost amcangyfrifiedig y prosiect ar gyfer Cam 1 a 2 yw £2.95 miliwn. Mae cyllid wedi cael ei sicrhau gan Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, Cynllun Datblygu Gwledig, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, y Loteri Genedlaethol, Cadw, Cronfa Treftadaeth Bensaernïol, Cronfeydd Preifat, Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a Cyngor Sir Ceredigion. Mae cyllid pellach o Gronfa Strategol Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru wedi cael ei gymeradwyo ac arian cyfatebol rhannol gan Gyngor Sir Ceredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio: “Rwy’n falch o’r sicrwydd i fuddsoddi ym Marchnad Dan Do Aberteifi. Fel Castell Aberteifi, yn ogystal â bod yn lle i fusnesau bach ddatblygu a thyfu gan sicrhau cyflogadwyedd hirdymor a chynaliadwy, mae gan yr adeilad hwn werth sylweddol o ran ei dreftadaeth. Bydd cwblhau’r prosiect hwn yn dod â mwy o fudd ac yn denu ymwelwyr o’r ardal ehangach.”

Mae Neuadd y Farchnad Aberteifi yn eiddo i Gyngor Sir Ceredigion, ac yn cael ei gosod ar brydles i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Aberteifi. Menter Aberteifi sy’n gyfrifol am gynnal Neuadd y Farchnad ar ran Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Aberteifi.

14/02/2023