Mae rhybuddion llifogydd wedi cael eu cyhoeddi ddydd Iau a Gwener, 23 a 24 Mawrth 2023, ar gyfer Afon Leri yn Borth.

Diweddariad, 24.03.2023 @14:44

Nid yw'r rhybudd llifogydd ar gyfer afon Leri Borth mewn grym mwyach

Diweddariad, 24.03.2023 @8:43

Mae rhybudd newydd am lifogydd wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer Afon Leri yn Borth.

Mae'r eiddo mewn perygl yn cynnwys Maes Carafanau Glanleri a'r Animalarium.

Mae'r rhybudd llifogydd yn seiliedig ar ragolygon y llanw, a disgwylir y llanw uchel am 10am heddiw.

Diweddariad, 23.03.2023 @12:35

Nid yw'r rhybudd llifogydd ar gyfer afon Leri Borth mewn grym mwyach

Diweddariad, 23.03.2023 @10:48

Nid yw'r rhybudd llifogydd ar gyfer ardal y llanw Aberteifi mewn grym mwyach

23.03.2023

Mae’r rhybuddion gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn seiliedig ar ragolygon y llanw a gallent aros yn eu lle ar gyfer dydd Gwener 24 Mawrth 2023.

Ar gyfer Aberteifi mae eiddo sydd mewn perygl gerllaw afon Teifi rhwng Pont Aberteifi a phont ffordd yr A487, gan gynnwys The Strand, Heol Eglwys Fair, Gloster Row, Pwllhai. Hefyd maes parcio'r archfarchnad ac eiddo cyfagos

Tra yn Borth gallai’r llanw uchel arwain at donnau’n torri dros y lan a risg o lifogydd mewn eiddo cyfagos gerllaw maes carafanau Glanleri a’r Animalarium.

Os ydych yn poeni neu’n profi llifogydd, ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188.

Gallwch fynd i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i weld y rhybuddion llifogydd sydd mewn grym, gwirio lefel afonydd a’r môr, neu gadw llygad ar y rhagolygon pum diwrnod o ran y risg o lifogydd: Cyfoeth Naturiol Cymru 

Gallwch hefyd ddilyn Cyngor Sir Ceredigion, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Swyddfa Dywydd ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau ar sefyllfa’r tywydd.

Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon.

23/03/2023