Nid yw'r Rhybudd Llifogydd ar gyfer Afon Leri, Borth mewn grym mwyach.

Diweddariad, 11:07am, 22 Mawrth 2023

Nid yw'r Rhybudd Llifogydd ar gyfer Afon Leri, Borth mewn grym mwyach.

 

8:30am, 22 Mawrth 2023

Mae rhybudd llifogydd wedi cael ei gyhoeddi ddydd Mercher, 22 Mawrth 2023, ar gyfer Afon Leri yn Borth.

Mae’r rhybudd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn seiliedig ar ragolygon y llanw. Gallai’r llanw uchel arwain at donnau’n torri dros y lan a risg o lifogydd mewn eiddo cyfagos gerllaw maes carafanau Glanleri a’r Animalarium.

Os ydych yn poeni neu’n profi llifogydd, ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188.

Gallwch fynd i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i weld y rhybuddion llifogydd sydd mewn grym, gwirio lefel afonydd a’r môr, neu gadw llygad ar y rhagolygon pum diwrnod o ran y risg o lifogydd: Cyfoeth Naturiol Cymru 

Gallwch hefyd ddilyn Cyngor Sir Ceredigion, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Swyddfa Dywydd ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau ar sefyllfa’r tywydd.

Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon.

22/03/2023