Gall trigolion roi eu barn ar drefniadau terfyn cyflymder newydd ar ffyrdd sydd wedi'u nodi fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru yn y sir.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru basio deddfwriaeth ym mis Gorffennaf 2022 fydd yn gweld y terfyn cyflymder ar strydoedd preswyl, adeiledig yn gostwng o 30mya i 20mya ledled Cymru. Bydd hyn yn dod i rym ym mis Medi eleni.

Nid oes gan yr un ffordd yng Ngheredigion statws cyfyngedig, felly bydd y newidiadau’n cael eu cyflwyno drwy’r broses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig. Mae hyn yn golygu bod angen i ni gynnal ymgynghoriad ffurfiol â'r cyhoedd ar bob terfniant terfyn cyflymder newydd arfaethedig.

Ledled Ceredigion, mae 370 o leoliadau wedi cael eu nodi ar gyfer y newid.

Mae disgwyl i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya arwain at:

  • 40% yn llai o wrthdrawiadau
  • achub 6 i 10 o fywydau bob blwyddyn
  • osgoi rhwng 1,200 a 2,000 o bobl yn cael eu hanafu bob blwyddyn

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd, Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Fel awdurdod lleol, rydym yn falch i'w gefnogi er mwyn gwella diogelwch ar y ffyrdd, lleihau difrifoldeb anafiadau ac annog Teithio Llesol a Chynaliadwy. Rydym yn awyddus i glywed gan drigolion ar y cynlluniau 20mya felly rydym yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.”

Gall trigolion weld yr ymgynghoriad ar-lein yma: www.ceredigion.gov.uk/resident/travel-roads-parking/consultations/orders/. Gellir cael copïau papur o'r ymgynghoriad yn Llyfrgelloedd yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi, Llandysul, Llanbedr Pont Steffan, a Cheinewydd yn ystod oriau agor arferol. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 28 Ebrill 2023.

Gallwch anfon unrhyw wrthwynebiadau, gan nodi’r rhesymau yn ysgrifenedig, i adran Gwasanaethau Technegol Ceredigion ar gwasanaethau.technegol@ceredigion.gov.uk, ein Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar clic@ceredigion.gov.uk neu'r adran Gwasanaethau Cyfreithiol, d/o Yr Ystafell Bost, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE. Rhaid derbyn gwrthwynebiadau ysgrifenedig erbyn 28 Ebrill 2023.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau lleol, cysylltwch â gwasanaeth i gwsmeriaid CLIC ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth am Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 ar gael yma: Cyflwyno Terfynau Cyflymder Diofyn 20 mya 

 

03/04/2023