Ym mis Ebrill 2023, bydd prydau ysgol am ddim yn cael eu cynnig i ddisgyblion Blynyddoedd 3 a 4 yn ysgolion Ceredigion.

Yn dilyn cyllid Llywodraeth Cymru, cyflwynodd Cyngor Sir Ceredigion gam cyntaf Prydau Ysgol Am Ddim i bob disgybl yn Nosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 ym mis Medi 2022, fel rhan o gynllun y Llywodraeth i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd erbyn mis Medi 2024.

O ddydd Llun, 17 Ebrill 2023, byddwn yn symud ymlaen i gam nesaf y broses sy’n golygu y bydd disgyblion ym mlynyddoedd 3 a 4 hefyd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Mewn ymateb i'r cynnydd parhaus mewn costau byw, mae hwn yn gam positif ymlaen o ran sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd yn llwglyd tra yn yr ysgol ac yn mynd i'r afael â thlodi yn ein sir.

Y Cynghorydd Wyn Thomas yw’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Dywedodd: “Rwy'n bles iawn o glywed ein bod yn barod i gyflwyno ail gam y cynllun a fydd yn gweld disgyblion ysgol ym mlwyddyn 3 a 4 hefyd yn cael cynnig prydau ysgol am ddim yn y sir. Bydd hyn yn lleihau'r pwysau ar deuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu'r cynllun hwn yn gyflym a gofynnwn am eich amynedd wrth i ni feithrin y gallu i sicrhau gweithrediad graddol llwyddiannus a gweithio tuag at gyflwyno'r ysgol gyfan yn raddol dros y tair blynedd nesaf.

30/03/2023