Mae Amgueddfa Ceredigion yn cynnal cyfres o weithdai am ddim i’r cyhoedd, ar gael o 12 Mai ymlaen, er mwyn archwilio’r cysylltiad cyntaf rhwng Iwerddon a Chymru ac adrodd hanes bywyd Mesolithig ym Mae Ceredigion.

Bydd hyn yn rhan o raglen lawn o berfformiadau a gweithdai yn Aberystwyth ar gyfer Portalis, prosiect trawsffiniol dan arweiniad Prifysgol Dechnolegol De-ddwyrain (SETU) Iwerddon.

Yn dyddio'n ôl i'r Oes Fesolithig tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl, mae gan ymwelwyr hyd at 24 Mehefin i ddysgu sut roedd yr ymsefydlwyr cyntaf hynny wedi addasu i'w hamgylchedd er mwyn goroesi. Mae'r prosiect hefyd yn ceisio deall a oes unrhyw debygrwydd o ran sut y gallwn ni addasu i newid hinsawdd nawr.

Rhwng 11,000 a 6,000 o flynyddoedd yn ôl, ar ôl Oes yr Iâ ddiwethaf, daeth arfordir Bae Ceredigion i edrych fel y mae heddiw. Wrth i'r iâ doddi cododd lefel y môr. Daeth traethau tywod a cherrig mân yn draethlinau creigiog. Lledodd dŵr halen yn raddol i’r iseldir ac aberoedd afonydd. Newidiodd cynefinoedd, rhywogaethau planhigion a llwybrau mudo tymhorol anifeiliaid ac adar.

Bydd yr artist Billie Ireland, cyn-fyfyriwr ac artist gweledol ym Mhrifysgol Aberystwyth y mae ei gwaith wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn darganfod, bregusrwydd a natur yn cynnal cyfres o weithdai yn yr Amgueddfa.

Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion: “Mae hi’n cael ei denu at ddulliau ysbrydol, defodol ac aberthol o greu, gan fyfyrio’n aml ar bŵer mamolaeth a chysylltiad â lle. Mae hi'n gwneud ymyriadau tir dros dro, ffilmiau fformat fertigol araf a cherfluniaeth siarcol sy'n datgelu trawsnewid a byrhoedledd.

“Mae gan Billie ddiddordeb mewn anthracoleg neu wyddor siarcol a sut y gallai celf alluogi patrwm newydd o newid a chysylltiad cysegredig â charbon. Mae’n bwnc sy’n ehangu ac yn un perthnasol sy’n cysylltu â llawer o draddodiadau a disgyblaethau, ond eto i gyd mae artistiaid yn aml heb eu cynnwys yn y sgwrs hon. Mae siarcol organig yn storio gwybodaeth am ddiwylliannau dynol, amgylcheddau a’r hinsawdd yn y gorffennol ac yn cyfrannu at ddatblygiadau amaethyddiaeth yn y dyfodol (Terra Preta) neu atafaelu carbon, technoleg bio-olosg (storio carbon ar gyfer y dyfodol). Fe sbardunodd gynnydd cyflym y ddynoliaeth ac mae’n dal yn hanfodol yn ein datblygiad technolegol heddiw.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae’n bleser gallu croesawu Billie Ireland i rannu ei doniau yn y gweithdai hyn. Buaswn i’n annog pobol i fanteisio ar y cyfle hwn i ddysgu mwy amdani a’r hyn sy’n eu hysbrydoli, ac i weld y technegau a’r cyfrwng paentio sy’n greiddiol i’w gwaith. “

Ar 27 Mai a 17 Mehefin rhwng 10:30-12:30pm a 1:30-3:30pm bydd dau weithdy i’r teulu yn cael eu cynnal. Dylai plant fod yng nghwmni oedolyn a dylai cyfranogwyr fod yn barod i gael eu dwylo’n frwnt gan y byddan nhw’n defnyddio siarcol, sialc ac ocr i greu hud Mesolithig gyda ffyn, cerrig, plu ac esgyrn.

Dywedodd yr artist Billie Ireland: “Cael hwyl wrth ddarlunio gyda deunyddiau naturiol a hynafol i ddarganfod y byd Mesolithig a chysylltu â’r fflora a’r ffawna sydd dan fygythiad heddiw, bydd cyfranogwyr hefyd yn gwneud eu brwshys a’u hoffer gwneud marciau eu hunain gyda’r deunyddiau a gafodd eu darganfod a’u casglu. Byddan nhw’n archwilio marciau, symbolau a motiffau ddoe a heddiw gan ddefnyddio siarcol, ocr, sialc ac asgwrn. Gan ddod â chreadigaethau pawb at ei gilydd, bydd offrwm cerfluniol yn cael ei wneud i elfennau pwerus y tir, yr awyr a’r môr ac i gysylltu trwy ddeunyddiau yng nghanol yr argyfwng hinsawdd.”

Bydd gweithdai i’r teulu ar gyfer plant cyn oed ysgol a’u rhieni/gofalwyr yn cael eu cynnal ar 13 Mehefin rhwng 11am-12pm ac 1pm-2pm.

Aeth Billie ymlaen i ddweud: “Unwaith eto, byddwch yn barod i gael eich dwylo’n frwnt gan y bydd yr un deunyddiau’n cael eu defnyddio. Mae'r gweithdy yn cynnig hwyl creadigol synhwyraidd gyda deunyddiau naturiol. Chwarae gyda phren, hadau, cerrig a chlai i lapio, edafu, cydbwyso a stacio, gan ddefnyddio anifeiliaid, nythod a llochesi Mesolithig fel ysbrydoliaeth.”

Caiff gweithdai i’r teulu eu cynnal ar 01 Mehefin rhwng 10-12pm a 1-3pm gyda’r Gerddorfa Fesolithig. Dewch i glywed synau'r Oes Fesolithig, creu offerynnau a pherfformio mewn Cerddorfa Fesolithig gyda'r artist sain, Tim Beckham.

Ar 03 Mehefin, bydd dau gyfle i weld dawns wedi’i hysbrydoli gan brosiect Portalis am 3pm a 6pm. Mae’r grŵp dawns Sandpaper & Mash, sy’n cynnwys y dawnswyr Friederike Anna Zinn ac Alexandra Bierlaire, yn archwilio’r daith o fudo rhwng Cymru ac Iwerddon gan gymryd profiadau o straeon personol teithio yn Ewrop. Gan ddod o hyd i’r chwilfrydedd mewn symud, gweld ac ymgartrefu o fewn cymdeithas heddiw, mae’r ddawns yn hel atgofion am yr un daith a droediodd ein cyndeidiau dros filoedd o ddegawdau yn ôl.

Gellir cadw lle ar gyfer y digwyddiadau trwy’r dolenni canlynol:

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau, ewch i wefan Amgueddfa Ceredigion

Mae prosiect Portalis, sy’n werth €1.95m, wedi’i gefnogi gyda €1.5m o gyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru. Arweinir y prosiect gan Brifysgol Dechnolegol De-ddwyrain (SETU) Iwerddon ac fe'i cefnogir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Cyngor Sir Ceredigion a Siambr Fasnach Waterford.

18/05/2023