Mae mwy na 2,000 o bobl ifanc Ceredigion wedi pleidleisio dros y pynciau sydd bwysicaf iddyn nhw.
Mae pleidlais ‘Rhoi dy Farn 2023’ a gydlynir gan Wasanaeth Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu Ceredigion yn rhoi cyfle i bobl ifanc bleidleisio ar bynciau a fydd wedyn yn llywio blaenoriaethau’r Cyngor Ieuenctid yn ystod 2023.
Pleidleisiodd 2,184 o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ym mhleidlais Rhoi dy Farn 2023, a’r pynciau llosg gyda’r nifer mwyaf o bleidleisiau yw ‘argyfwng costau byw’, gyda ‘gyrfaoedd’ yn ail, ac ‘addysg’ yn trydydd.
Dywedodd Ifan Meredith, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion: “Mae ymgyrch ‘Rhoi Dy Farn 2023’ wedi galluogi pobl ifanc ar draws y sir i ddatgan eu barn ar y materion sydd o bwys iddyn nhw. Diddorol yw gweld y canlyniadau yma sydd yn dangos pryderon pobl ifanc yr ardal ac mae’r Cyngor Ieuenctid yn barod i ymateb ac i holi’r pobl mewn grym am y materion yma.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’r pynciau mae pobl ifanc Ceredigion wedi’u codi yn bwysig iawn, sy’n cyfuno materion byd-eang a lleol. Rwy’n falch iawn gweld y Cyngor Ieuenctid yn gwneud gwaith arbennig wrth gasglu a thrin a thrafod y pynciau hyn, ynghyd â’u cyflwyno i gynulleidfa ehangach. Dyma faterion pwysig tu hwnt sy’n haeddu ystyriaeth bellach.”
Ym mis Gorffennaf 2023, bydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn cyflwyno cyfres o gwestiynau mewn ymateb i ganlyniadau’r bleidlais, i banel o ffigyrau cyhoeddus.
Mae’r digwyddiad hwn wedi ei gynnal ers chwe mlynedd bellach ac yn gyfle i rannu llais bobl ifanc Ceredigion ynghylch materion sy’n bwysig iddyn nhw.
Mwy o fanylion a’r canlyniadau llawn o fewn y daflen ynghlwm.
18/04/2023