Bydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn ceisio atebion i nifer o gwestiynau a gyflwynir i'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn ystod cyfarfod nesaf y Panel yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin, am 10.30am ddydd Gwener, 19 Mai.

Ymhlith y cwestiynau a osodir ar yr agenda ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llewelyn, fydd sut mae'r heddlu'n mynd i'r afael ag iechyd a llesiant swyddogion heddlu a staff profiadol yn gadael y proffesiwn yn gynnar, a all yn aml gael effaith niweidiol ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd heddlu.

Yn ogystal, mae disgwyl y gofynnir i'r Comisiynydd pa wersi y gall Heddlu Dyfed-Powys eu dysgu o adroddiad y Farwnes Casey, sydd wedi codi pryderon difrifol ynghylch diwylliant ac ymddygiad yr Heddlu Metropolitanaidd.

Mae troseddau gwledig yn faes y cydnabyddir bod Heddlu Dyfed-Powys wedi gwneud cynnydd sylweddol arno yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bydd y Panel Heddlu a Throseddu yn gofyn am sicrwydd gan y Comisiynydd bod y momentwm hwn yn cael ei gynnal.

Gofynnir i'r Comisiynydd hefyd pa gamau y mae'n eu cymryd i sicrhau bod yr heddlu'n cynnal trefn Drwyddedu Drylliau effeithlon ac addas i'r diben ar gyfer Dyfed-Powys.

Dywedodd Cadeirydd Panel Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed-Powys, yr Athro Ian Roffe: “Rydym ni'n clywed gymaint ar y cyfryngau am blismona. Felly mae gofyn cwestiynau i'r Comisiynydd yn rhoi cipolwg go iawn i ni ar waith yr heddlu yn ein pedair sir a thu hwnt.”

Bydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cwrdd yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin, am 10.30am ddydd Gwener, 19 Mai 2023.

Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cefnogi ac yn craffu ar waith Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Mae'r Panel yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan y pedwar cyngor yn ardal yr heddlu: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys; ac o leiaf ddau aelod annibynnol. Cyngor Sir Caerfyrddin yw awdurdod arweiniol y Panel.

Ewch i www.panelheddluathroseddudp.cymru i gael rhagor o wybodaeth am y Panel, ei aelodaeth, dyddiadau cyfarfodydd sydd ar y gweill, agendâu a dolenni gweddarlledu, yn ogystal â chyflwyno cwestiynau i'r Panel eu rhoi gerbron y Comisiynydd.

Gellir cyflwyno cwestiynau ar-lein, neu'n ysgrifenedig drwy anfon neges e-bost at panelheddluathroseddudp@sirgar.gov.uk o leiaf 10 diwrnod cyn cyfarfod.

11/05/2023