Cynhelir ffair gyrfaoedd ym mis Mawrth lle bydd cyfleoedd gyrfaol a phrentisiaethau o fewn y Cyngor yn cael eu hyrwyddo.

Cynigir sesiynau blasu i ddisgyblion gan Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT) a bydd cyfle i dderbyn gwybodaeth gan wasanaethau eraill o fewn y Cyngor, er enghraifft y Gwasanaeth Ieuenctid, Gwasanaeth Hamdden ac Amgueddfa Ceredigion.

Bydd cyfle i ddisgyblion ddarganfod mwy am Dwf Swyddi Cymru+ a’r prentisiaethau sydd ar gael gyda HCT.

Bydd gwasanaethau amrywiol o bob rhan o'r Cyngor ar gael i siarad am rolau prentisiaeth gyda’r Cyngor, gyrfaoedd cynnar, profiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli, gan roi cyfle i ddisgyblion archwilio eu diddordebau a chael cipolwg gwirioneddol ar yr amrywiaeth o lwybrau gyrfa sydd ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb ar gyfer Dysgu a Datblygu: "Mae gennym gyfleoedd gyrfa gwych gyda'r Cyngor. Caiff staff sy’n gyflogedig gyda’r Cyngor hefyd gyfle i ddysgu Cymraeg ar raglen Cymraeg Gwaith y Cyngor, gyda dosbarthiadau ar gael ar bob lefel o hyfedredd. Rwy'n gobeithio bod y digwyddiad hwn wedi ennill diddordeb rhai disgyblion i ddechrau eu gyrfaoedd gyda ni."

Dywedodd Andrew Wonklyn, Arweinydd Tîm yn Gyrfa Cymru: "Mae'r digwyddiad Dewisiwch eich Dyfodol yn gyfle gwych i bobl ifanc yng Ngheredigion ehangu eu gorwelion pan mae'n dod at yrfaoedd a'u dewisiadau ar gyfer y dyfodol. Drwy ddod â disgyblion ysgol ynghyd â chyflogwyr lleol a chenedlaethol, gallan nhw ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw ar ôl ysgol ac yn y dyfodol. Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i'r disgyblion feddwl am yr hyn sy'n apelio atynt ac i ofyn cwestiynau'n uniongyrchol i'r arbenigwyr eu hunain. Bydd ein cynghorwyr gyrfaoedd arbenigol hefyd yno ar y diwrnod i helpu disgyblion i feddwl am eu camau nesaf."

Am fwy o wybodaeth am brentisiaethau neu yrfaoedd cynnar gyda'r Cyngor, anfonwch e-bost at: prentis@ceredigion.gov.uk, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar 01545 570 881 neu ewch i’n gwefan: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/swyddi-a-gyrfaoedd/

Cynhelir Ffair Yrfaoedd ‘Dewisiwch eich Dyfodol’ ar 21 Mawrth 2023, rhwng 9:00am a 2:00pm yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth. Am ragor o wybodaeth ewch i: Dewiswch Eich Dyfodol Ceredigion | Digwyddiadau (llyw.cymru)

10/03/2023