Ymunodd dros 90 o fyfyrwyr Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth â staff y Cyngor ar gyfer diwrnod ‘Darganfod eich Dyfodol’ a gynhaliwyd yn y Brifysgol ar 26 Ebrill 2023.

Bu cynrychiolwyr o’r Cyngor yn cyflwyno gweithdai ar yrfaoedd ym maes Addysgu, y Blynyddoedd Cynnar, Gwaith Cymdeithasol, Troseddwyr Ifanc, Gwaith Ieuenctid, Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ogystal â chyfleoedd gwirfoddoli.

Y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth. Dywedodd: “Mae’n gadarnhaol iawn gweld ein perthynas gyda Phrifysgol Aberystwyth yn parhau i ffynnu. Byddwn yn ceisio datblygu cydweithio â’r Brifysgol ymhellach a sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o’r cyfleoedd gyrfa gwych sydd ar gael iddynt o fewn y Cyngor.”

Geraint Edwards yw’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Pobl a Threfniadaeth. Dywedodd: “Mae hon yn enghraifft o gydweithio gwych rhwng y Cyngor a’r Brifysgol. Mae’r Cyngor am ddenu a chadw’r dalent sydd gan y myfyrwyr hyn i’w cynnig i Geredigion. Ein nod yw dangos y cyfleodd gyrfa sydd ar gael a gadael i fyfyrwyr glywed gan ein harbenigwyr am y gwaith o ddydd i ddydd sy’n gysylltiedig â’r gyrfaoedd hyn.”

Dywedodd Debbie Ayriss, Rheolwr Dysgu a Datblygu: “Roedd y myfyrwyr yn wych i weithio â nhw a’r adborth a gawsom yw bod y digwyddiad hwn wedi agor eu llygaid i fathau o swyddi nad oeddent yn ymwybodol ohonynt. Cawsom lawer o ddiddordeb mewn cyfleodd gwirfoddoli ac mae’n wych bod cymaint o fyfyrwyr yn sylweddoli sut y gall gwirfoddoli eu helpu ar eu llwybr gyrfa.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa gyda'r Cyngor, cymerwch olwg ar ein gwefan Gyrfaoedd: careers.ceredigion.gov.uk/cy/

 

09/05/2023