Mae porth newydd wedi’i lansio ar wefan Cyngor Sir Ceredigion i ddod â phopeth sy’n ymwneud a Thaliadau Uniongyrchol at ei gilydd mewn un man.

Gall defnyddwyr gwasanaeth nawr gael yr holl wybodaeth sydd ei angen arnynt o ran Taliadau Uniongyrchol mewn gwefan newydd, hawdd ei defnyddio: Taliadau Uniongyrchol Ceredigion

Beth yw Taliadau Uniongyrchol?

Taliad Uniongyrchol yw arian a ddyfernir gan yr Awdurdod Lleol i alluogi pobl i drefnu eu pecyn gofal eu hunain. Gellir cynnig Taliadau Uniongyrchol i bron pawb yr aseswyd eu bod yn gymwys i gael gwasanaethau gofal cymunedol. Bydd swm yr arian yn dibynnu ar faint a pha fath o gymorth sydd ei angen.

Gall pobl ddefnyddio Taliad Uniongyrchol i drefnu cymorth sy’n addas iddyn nhw a’u ffordd o fyw. Mae cael Taliad Uniongyrchol yn golygu y gall pobl gael mwy o reolaeth dros y cymorth sydd ei angen arnynt a gallu gwneud dewisiadau pwysig am eu gofal.

Mae pobl yng Ngheredigion yn defnyddio Taliadau Uniongyrchol i drefnu’r canlynol:

  • Cymorth gyda bywyd bob dydd a gweithgareddau
  • Cymorth i fynd allan ac o le i le
  • Cymorth gyda gofal personol
  • Cymorth sy’n helpu i gyflawni nodau personol
  • Offer sy’n cynorthwyo eu hannibyniaeth

Cynorthwywyr Personol

Mae’r wefan yn un man cyfleus lle gall pobl hysbysebu eu hysbysebion cynorthwywyr personol eu hunain ar y porth, a chwilio am swyddi gwag addas.

Mae mwy na 50 o rolau yn cael eu hysbysebu ar y wefan ar hyn o bryd: Cynorthwywyr Personol 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Llesiant Gydol Oes: “Mae’r porth hwn yn darparu gwasanaeth newydd a fydd yn gwneud bywyd llawer yn haws i'r rheiny sydd angen cymorth gyda Thaliadau Uniongyrchol. Gall gwneud yr holl drefniadau ymddangos fel proses gymhleth i'r rheiny nad ydynt yn gyfarwydd â gwneud hynny. Mae’r porth hwn yn rhoi popeth sydd ei angen mewn un man cyfleus. Mae’n darparu gwybodaeth, cymorth a help ymarferol gyda phethau a all deimlo’n hynod o anodd, er enghraifft recriwtio a chyflogi cynorthwywyr personol, talu cyflogau a gwneud trefniadau treth ac Yswiriant Gwladol. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog rhagor o bobl i fanteisio ar yr opsiwn Taliadau Uniongyrchol oherwydd gall ddarparu annibyniaeth, dewis, a chymorth. Bydd darpar ddefnyddwyr Taliadau Uniongyrchol nawr yn gallu ymchwilio i'r hyn sydd wedi’i gynnwys, a gobeithio yn teimlo’n fwy hyderus.

Ychwanegodd Lis Cooper, Rheolwr Tîm ar gyfer Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol yng Ngheredigion: “Bydd y wefan newydd hefyd yn galluogi darpar gynorthwywyr personol i gofrestru eu diddordeb mewn gweithio a chaniatáu iddynt deilwra yr oriau a’r ardaloedd yr hoffent weithio ynddynt. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn canolbwyntio arno dros yr ychydig fisoedd nesaf; edrych ar ofalu am y rheiny sydd ei angen o fewn eu cymunedau, cwtogi ar y milltiroedd i gyrraedd ac yn ôl o’r gwaith, a chynnwys darpar weithwyr nad ydynt yn gallu gyrru i gael gwaith. Mae gennym hefyd ddiddordeb mewn estyn allan at y gymuned amaethyddol i gynnig cyflogaeth sy’n cyd-fynd â’u hymrwymiadau presennol ac ychwanegu ffrydiau incwm newydd at eu busnesau. Yn yr ardal wledig hon, rwy’n gweld hyn yn hynod o bwysig i gadw incwm o fewn ein cymunedau.”

Gwneud cais am Daliadau Uniongyrchol

I wneud cais am Daliadau Uniongyrchol, bydd angen i ddefnyddwyr gwasanaeth gwblhau asesiad o anghenion gofal. Gellir trefnu hwn trwy’r gweithiwr cymdeithasol cyfredol neu trwy gysylltu â Gwasanaethau i Gwsmeriaid Clic ar 01545 570 881 / clic@ceredigion.gov.uk

Mae Taliadau Uniongyrchol yn rhan o’r rhaglen Llesiant Gydol Oes (TAW). Mae tri gwasanaeth yn rhan o TAW, sef: Porth Cymorth Cynnar, Porth Gofal a Phorth Cynnal.

Mae’r rhaglen yn nodi’r pryderon llesiant sydd gan bobl yn gynnar ac yn atal uwchgyfeirio, lle bo’n bosibl, trwy ymateb mewn modd amserol a chymesur.

27/03/2023