Lansiwyd arolwg rhanbarthol gan bartneriaid y sector cyhoeddus i geisio barn gan bobl ar draws Ceredigion, Sir Gâr, Sir Benfro a Phowys wrth ddefnyddio amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus, o iechyd i dai.

Bydd y sylwadau yn dylanwadu ar waith ar gydraddoldeb o 2024 hyd at 2028, a sut mae pobl gyda nodweddion gwarchodedig yn cael eu heffeithio a’u trin wrth ddefnyddio gwasanaethau a ddarperir gan y sector. 

Mae’r arolwg yn canolbwyntio ar brif feysydd megis addysg, tai, iechyd, troseddu, hamdden a mynediad at yr arfordir a chefn gwlad. Mae’n gofyn i bobl sgorio eu profiadau o’r gwasanaethau hyn a’u barn am y profiad mae pobl eraill yn ein cymdeithas yn ei gael. 

Rhaid i bob corff cyhoeddus lunio Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy’n nodi sut y bydd gwasanaethau’n cael eu darparu a’u bod yn hygyrch i bobl, beth bynnag yw eu hoedran, eu rhyw, eu rhywioldeb, eu crefydd, eu dewis iaith neu unrhyw anableddau sydd ganddynt. 

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhestru naw o nodweddion gwarchodedig. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi adroddiad o’r enw ‘A yw Cymru’n Decach?’ (2018). Mae hwn yn nodi cyflwr y genedl wrth edrych ar grwpiau mwy bregus ein cymdeithas. Mae’r arolwg yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol a restrir yn yr adroddiad. 

Mae gan bob corff sector cyhoeddus ddyletswydd i wneud y canlynol: 

  • Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth 
  • Hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir perthnasol, a’r rheiny nad ydynt 
  • Meithrin perthnasau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir a’r rheiny nad ydynt  

Ochr yn ochr â’r arolwg hwn byddwn yn ymgysylltu â grwpiau cymunedol penodol sy’n cynrychioli ac eirioli dros rhai o’r grwpiau nas clywir yn aml. Mae’r rhain yn cynnwys grwpiau megis pobl Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, neu ffoaduriaid wedi’u hadsefydlu.  

Mae awdurdodau lleol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi cydweithio i baratoi’r holiadur yma. 

Bydd yr holiadur ar-lein yn fyw tan 30 Gorffennaf 2023 ac ar gael yma: Holiadur Cydraddoldeb Rhanbarthol 

Y Cynghorydd Catrin M S Davies yw Aelod Cabinet y Cyngor â chyfrifoldeb am Gydraddoldeb. Dywedodd: “Dylai pawb fynd ati i fynegi barn ac i gyfrannu at yr holiadur pwysig hwn. Bydd eich sylwadau yn helpu i sicrhau bod cydraddoldeb wrth wraidd holl waith yr Awdurdod. Mae’n gyfle i chi ddweud eich dweud.” 

Arolwg o’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Mae copïau papur a fersiynau mewn fformatau eraill hefyd ar gael yn holl lyfrgelloedd a chanolfannau hamdden Ceredigion, gan gynnwys y faniau llyfrgell symudol. 

Os bydd angen i chi gysylltu â ni neu os bydd angen i chi gael gwybodaeth mewn ffurfiau eraill, ffoniwch ni ar 01545 570881 neu anfonwch e-bost at partnerships@ceredigion.gov.uk

Gallwch weld copi o adroddiad ‘A yw Cymru’n Decach?’ trwy fynd i: Comisiwn Hawliau Dynol a dewis lawrlwytho’r fersiwn Gymraeg. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â desg y wasg/tîm y cyfryngau unrhyw un o’r asiantaethau partner sy’n rhan o’r arolwg. 

25/05/2023