Mae prosiect ar waith i adnewyddu’r golau ar y briffordd a gwella’r cysylltiadau teithio llesol rhwng y prom a’r harbwr yn Aberystwyth.

Daw hyn yn sgil cyllid y mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ei dderbyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o dan y cynllun Ffyniant Bro.

Mae offer presennol y goleuadau stryd ar hyd y promenâd yn Aberystwyth yn dod at ddiwedd ei oes ac mae’r adroddiadau diweddaraf ynghylch eu cyflwr wedi cadarnhau bod angen adnewyddu’r system gyfan.

Er mwyn osgoi cyn lleied o darfu â phosib yn ystod adegau prysuraf y flwyddyn, bydd y Cyngor yn parhau â’r gwaith dros y misoedd nesaf.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud fesul cam gan ddechrau ar hyd Rhodfa Fuddug a Glan y Môr gan osod cyflenwadau trydan newydd, ynghyd â cheblau a cholofnau newydd. Bydd hyn hefyd yn cynnwys trosglwyddo’r llusernau LED dros dro i’r cyflenwadau newydd er mwyn gallu parhau i ddarparu golau ar hyd y promenâd.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Rwy’n falch bod buddsoddiad wedi’i sicrhau ar gyfer newid y Goleuadau Stryd ar hyd y promenâd yn Aberystwyth, mae hyn yn enghraifft arall o’r buddsoddiad mae’r Cyngor Sir yn ei roi i Aberystwyth. Mae’r cynllun yn symud ymlaen ymhellach gydag ymdrechion y Cyngor i ddod yn Sir Carbon Sero Net gyda’r defnydd o lusernau LED.”

Bydd dyluniad y llusernau a fydd yn cael eu gosod yno yn y pen draw yn destun ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid, ynghyd â’r opsiynau teithio llesol eraill sy’n cael eu dylunio gan swyddogion ar hyn o bryd.

Ni fydd gwaith yn cael ei wneud yn ystod gwyliau’r Pasg na gwyliau banc, ac mae disgwyl iddo barhau tan 23 Mehefin 2023.

Bydd y contractwr yn gwneud pob ymdrech i darfu cyn lleied â phosib. Fodd bynnag, hoffem gymryd y cyfle hwn i ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw darfu neu anghyfleustra a achosir gan y gwaith.

15/03/2023