Bydd casgliadau gwastraff ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc yn newid yng Ngheredigion.
Gyda'r bwriad o ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i drigolion, rydym yn newid trefniadau casglu gwastraff ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc o Pasg 2023.
Dros gyfnod y Pasg rydym yn bwriadu casglu gwastraff fel a ganlyn:
Diwrnod Casglu Arferol |
Casglu ar |
|
Dydd Gwener y Groglith, 7 Ebrill 2023 |
Dim newid |
Dydd Gwener y Groglith, 7 Ebrill 2023 |
Dydd Llun Pasg, 10 Ebrill 2023 |
Symud i |
Dydd Sadwrn Pasg, 8 Ebrill 2023 |
Gofynnir i drigolion rannu’r wybodaeth mor eang â phosib gyda chymdogion, teulu, ffrindiau a chymunedau ar draws Ceredigion a all gael eu heffeithio.
Y bwriad yw mabwysiadu’r dull yma o weithio ar gyfer y Gwyliau Banc sy’n syrthio ar ddydd Llun ym mis Mai a mis Awst. Yn sgil hyn bydd y casgliadau gwastraff sydd wedi eu rhaglennu ar ddydd Llun yn cael eu casglu ar y dydd Sadwrn blaenorol.
Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Rydym yn adolygu’n barhaus ein dull o ddarparu ein gwasanaethau gyda’r bwriad o roi’r gwasanaeth gorau posib i’r cyhoedd gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni. Mae casgliadau gwastraff ar Ŵyl y Banc yn hanesyddol wedi bod yn broblematig ac wedi cynnig heriau.
“Yn ystod 2023 ein bwriad yw dod â chasgliadau a drefnwyd ar gyfer Dydd Llun Gŵyl y Banc ymlaen i'r dydd Sadwrn blaenorol. Gobeithio y bydd hyn yn rhoi gwell cyfle i ni sicrhau’r adnoddau sydd eu hangen arnom i ddarparu’r gwasanaethau ac yn rhoi cyfle i adfer yn fuan wedyn os na allwn gasglu ar y diwrnod a drefnwyd. Byddwn yn ymdrechu i rannu’r wybodaeth mor eang â phosib ac, fel bob amser fel rhan o Caru Ceredigion, hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus.”
Cadwch olwg ar ein gwefan am y diweddaraf o ran casgliadau gwastraff www.ceredigion.gov.uk/diweddariadaucasgliadaugwastraff
Dros gyfnod y Pasg bydd oriau agor Safleoedd Gwastraff Cartref Glanyrafon, Llambed a Chilmaenllwyd fel a ganlyn:
Diwrnod |
Oriau agor Safleoedd Gwastraff Cartref Glanyrafon, Llambed a Chilmaenllwyd dros gyfnod y Pasg |
Dydd Gwener y Groglith, 7 Ebrill 2023 |
Ar Gau |
Dydd Sadwrn Pasg, 8 Ebrill 2023 |
10:00-15:00 |
Dydd Sul Pasg, 9 Ebrill 2023 |
10:00-15:00 |
Dydd Llun Pasg, 10 Ebrill 2023 |
10:00-15:00 |
Bydd dim newid i oriau agor Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon dros gyfnod y Pasg.
Diwrnod |
Oriau agor Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon dros gyfnod y Pasg |
Dydd Gwener y Groglith, 7 Ebrill 2023 |
Ar Gau |
Dydd Sadwrn Pasg, 8 Ebrill 2023 |
10:00-17:00 |
Dydd Sul Pasg, 9 Ebrill 2023 |
10:00-17:00 |
Dydd Llun Pasg, 10 Ebrill 2023 |
Ar Gau |
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chanolfan Gyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor drwy ffonio 01545 570881 neu ewch i’r wefan www.ceredigion.gov.uk
27/03/2023