Mae Pwll Nofio a Neuadd Goffa Aberteifi wedi derbyn Grant Cyfalaf i wneud gwaith adnewyddu mawr ei angen.

Cafodd Grant Cyfalaf Chwaraeon Cymru, gwerth £207,000, gan Lywodraeth Cymru ei sicrhau gan Gyngor Sir Ceredigion i gyllido gwaith cyfalaf hanfodol yn y pwll nofio.

Bydd y grant yn galluogi’r Pwll Nofio i uwchraddio Cyfarpar y Pwll a’r Uned Drin Aer, insiwleiddio’r to uwchben pwll y plant a phrynu gorchuddion pwll newydd.

Dywedodd Matt Newland, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Pwll Nofio a Neuadd Goffa Aberteifi: “Mae ymddiriedolwyr y pwll a’r neuadd yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cael grant gan Chwaraeon Cymru i gyflawni gwaith mawr ei angen i'r pwll er mwyn iddo barhau i weithredu. Hoffai’r ymddiriedolwyr ddiolch i Gyngor Sir Ceredigion am eu cymorth. Mae Pwll Nofio a Neuadd Aberteifi yn cael ei redeg gan bwyllgor yr ymddiriedolwyr er budd y gymuned. Mae’n adnodd hanfodol a bydd y grant hwn yn helpu i sicrhau ein dyfodol.”

Croesawodd Katie Proven newyddion, sef rheolwr newydd ei benodi y ganolfan: “Bydd y buddsoddiad yn ein helpu i wneud arbedion effeithlonrwydd mawr eu hangen, lleihau ein costau ynni a’n hôl-troed amgylcheddol. Mae hwn yn newyddion rhagorol ar gyfer pobl Aberteifi.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Catrin M.S Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau i Gwsmeriaid: “Mae cyfleusterau hamdden Ceredigion sy’n cael eu cynnal gan y gymuned yn rhan bwysig o gynnig cyfleoedd i'n trigolion i fod yn egnïol ac i gael hwyl boed fel teulu, grŵp o ffrindiau neu’n unigolion. Trwy weithio gyda’n gilydd, mae’r Pwll Nofio a Neuadd Goffa Aberteifi a’r Cyngor wedi sicrhau buddsoddiad sylweddol a fydd yn galluogi’r pwll i barhau i gyfrannu at wella iechyd a lles pobl y sir.”

Mae rhagor o wybodaeth am y cynlluniau ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: adroddiad y Cabinet 

11/01/2023