Mae mannau gwefru cerbydau trydan ychwanegol yn cael eu gosod ar draws y sir i’w defnyddio gan drigolion a’r sawl sy’n ymweld â Cheredigion.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ffurfio partneriaeth gyda chwmni Silverstone Green Energy fel ei Weithredwr Mannau Gwefru ac wedi dechrau gosod mannau gwefru cerbydau trydan mewn meysydd parcio cyhoeddus Talu ac Arddangos oddi ar y stryd yn Ngheredigion. 

Rhagwelir twf sylweddol yn y galw am fannau gwefru cyhoeddus a phreifat ar gyfer Cerbydau Trydan yn ystod y deng mlynedd nesaf wrth i nifer y cerbydau trydan a werthir gynyddu. Mae’r Cyngor yn gwneud ei ran ond mae’n rhaid i ystod o sefydliadau cyhoeddus, preifat a chymunedol chwarae eu rhan wrth ddiwallu’r cynnydd hwn yn y galw oherwydd mae’r diffyg mannau gwefru yn rhwystr sylweddol i bobl rhag defnyddio cerbydau trydan.

Mae’r mannau gwefru cerbydau trydan wedi’u lleoli mewn meysydd parcio canolog er mwyn i ddefnyddwyr fedru ymweld â busnesau ac atyniadau lleol wrth wefru eu ceir. Yn ogystal, mae’r mannau gwefru cerbydau trydan ar gyfer pobl sydd heb le oddi ar y stryd i wefru eu ceir dros nos. Y lleoliadau yw:

  • Swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA
  • Maes Parcio Ffordd y Gaer, Aberaeron, SA46 0HZ
  • Swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Aberystwyth, SY23 3UE
  • Maes Parcio rhan isaf Coedlan y Parc / Boulevard St Brieuc, Aberystwyth, SY23 1PD
  • Maes Parcio Sgwâr Maes Glas, Aberteifi, SA43 1LH
  • Canolfan Hamdden, Ffordd y Gogledd, Aberteifi, SA43 1HG
  • Maes Parcio Y Rookery, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7BU
  • Maes Parcio Llandysul, Llandysul, SA44 4QU
  • Maes Parcio Heol yr Eglwys, Ceinewydd, SA45 9PB
  • Maes Parcio Stryd y Cware / Paragon, Ceinewydd, SA45 9NR
  • Maes Parcio Iard y Talbot, Tregaron, SY25 6NF

Mae’r mannau gwefru newydd yn rhan o Rwydwaith Gwefru Dragon a bydd rhagor o leoliadau ar gael pan ddaw rhagor o gyllid. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/gwefru-cerbydau-trydan-yng-ngheredigion/ a gwefan Rhwydwaith Gwefru Dragon www.dragoncharging.co.uk/cymru/. Gallwch ddod o hyd i'ch man gwefru agosaf ar Zap Map: www.zap-map.com/ neu drwy ddefnyddio’r ap.

Mae’r rhan fwyaf o’r mannau gwefru a osodir gan Gyngor Sir Ceredigion yn rhai ‘cyflym’ sy’n defnyddio cebl gwefru Math 2 ac yn gwefru mewn tair i bedair awr, yn dibynnu ar fath a nifer y cerbydau sydd wedi’u plygio i mewn. Mae mannau gwefru ‘chwim’ hefyd yn cael eu gosod mewn rhai meysydd parcio gan gynnwys meysydd parcio cyhoeddus y Cwmins yn Llambed a Sgwâr Cae Glas, Aberteifi. Mae gwybodaeth ynglŷn â sut i ddefnyddio’r mannau gwefru ar gael ar wefan Rhwydwaith Gwefru Dragon, drwy ap Gwefru Dragon, neu wrth y mannau gwefru eu hunain.

Mae’r Cynghorydd Keith Henson, yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon, wedi croesawu’r mannau gwefru cyhoeddus a gyflwynwyd ar gyfer cerbydau trydan, gan ddweud: “Mae hyn yn gam da ymlaen i helpu i leihau ein hallyriadau carbon, a sicrhau bod ein sir yn parhau i ddatblygu i gefnogi ein busnesau, ein trigolion ac apelio at ymwelwyr. Wrth gefnogi targedau i gefnogi targedau Carbon Sero Net corfforaethol y Cyngor sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth a theithio, rwy'n falch iawn ein bod wedi llwyddo i wneud cais pellach am gyllid Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'n galluogi i sefydlu mannau ychwanegol ledled y sir."

Daw’r datblygiad hwn ar ôl i Gabinet Cyngor Sir Ceredigion fabwysiadu Strategaeth ar gyfer Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV) ym mis Medi 2022. Mae Grŵp Llywio ULEV y Cyngor yn parhau i reoli'r gwaith o gyflawni’r prosiect gwefru cerbydau trydan sy'n hybu Cynllun Corfforaethol 2022-2027 y Cyngor Sir, yn enwedig amcan Creu cymunedau cynaliadwy a gwyrdd sydd wedi’u cysylltu’n dda â’i gilydd. Hefyd mae’n hybu’r gwaith o gyflawni’n lleol Llwybr Newydd, sef Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (2021) Llywodraeth Cymru. 

Atgoffir y sawl sydd am wefru cerbyd trydan yn un o feysydd parcio oddi ar y stryd y Cyngor fod yn rhaid iddynt barcio’n ddiogel ac yn gyfrifol, o fewn y cilfannau parcio dynodedig. Hefyd, rhaid cofio symud y cerbyd ar ôl gorffen gwefru fel bod eraill yn gallu defnyddio’r man gwefru. Er mwyn osgoi Hysbysiad Cosb mae’n rhaid i unrhyw un sy’n parcio mewn maes parcio cyhoeddus ac sy’n defnyddio un o’r cilfannau parcio dynodedig hefyd dalu’r ffi a nodir ar gyfer parcio yn y maes parcio hwnnw yn ystod yr oriau y mae’r ffioedd hynny yn berthnasol. 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu eich bod yn cael trafferth defnyddio’r mannau gwefru cerbydau trydan, gofynnir i chi gysylltu â Llinell Gymorth Silverstone Green Energy ar 01834 474480 neu os yw’n fater llai brys, e-bostio dragonchargingsupport@silverstonege.com.

 

12/05/2023