Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae mwy na 21,000 o gartrefi cymwys yng Ngheredigion wedi cael taliad cymorth untro gwerth £150 i helpu gyda’r argyfwng costau byw.

Oddi ar mis Mehefin 2022, mae cyfanswm o ychydig llai na £3.2 miliwn wedi cael ei dalu gan Gyngor Sir Ceredigion o gynllun a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu pobl sy’n wynebu caledi yn sgil y costau ynni cynyddol.

Erbyn hyn, mae’r Cyngor wedi cwblhau’r Prif Gynllun Costau Byw a Cham 1 o Gynllun Dewisol Ceredigion trwy dalu £150 i gartrefi cymwys yn uniongyrchol i'w cyfrifon banc. Os nad oedd preswylwyr wedi rhoi eu manylion Debyd Uniongyrchol ar eu cyfrifon Treth y Cyngor, roedd y Cyngor wedi trefnu i’r Swyddfa Bost ryddhau llythyron taleb i bobl gasglu’r taliad o unrhyw gangen.

Mae Cam 2 y cynllun bellach yn cael ei gwblhau, ac os nad yw eich cartref wedi cael y taliad Costau Byw gwerth £150 yn flaenorol a’ch bod yn bodloni’r meini prawf a amlinellir isod, gallwch wneud cais ar-lein o 30 Ionawr 2023 ymlaen.

Mae Meini Prawf Cam 2 y Cynllun Dewisol o ran Costau Byw ar gyfer cartrefi sy’n bodloni’r canlynol yn unig:

  • roedd y person sy’n atebol am Dreth y Cyngor yn byw mewn eiddo yng Ngheredigion fel ei brif breswylfa ar 15 Chwefror 2022 neu wedi symud i dderbyn neu ddarparu gofal yn rhywle arall; ac
  • nid ydynt wedi derbyn taliad Cymorth Costau Byw gan Gyngor Sir Ceredigion o dan y prif gynllun na’r cynllun dewisol: ac
  • maent yn profi caledi ariannol ac angen cymorth gyda chostau byw

Dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth ac i wneud cais:  Treth y Cyngor Ceredigion. Gallwch ffonio ein canolfan gyswllt ar 01545 570881 neu alw heibio llyfrgelloedd y sir am help a chyngor ar sut i wneud cais.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Gyllid a Gwasanaethau Caffael: “Mae’n wych gweld bod cymaint o gartrefi Ceredigion eisoes wedi derbyn taliad cymorth Costau Byw, ac rydym yn ddiolchgar tu hwnt i'r tîm yng Nghyngor Ceredigion am eu gwaith caled. Hoffwn annog pawb i wirio a ydynt wedi derbyn y taliad hwn ac, os ydych yn gymwys, i gwblhau’r cais ar-lein neu ofyn am help a chyngor ar y wefan, trwy Clic neu yn llyfrgelloedd y sir. Mewn cyfnod o’r fath, mae pob ceiniog yn bwysig ac rwy’n eich annog i sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ar gael i chi.”

Mae taliadau Cam 2 y Cynllun Dewisol ar gael hyd at 31 Mawrth 2023. Gallai’r cynllun gau cyn hynny os bydd dyraniad cyllid Llywodraeth Cymru wedi cael ei wario’n llawn.

20/01/2023