Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cynnal Arolygiad Gwerthuso Perfformiad o wasanaethau cymdeithasol yng Ngheredigion ar ddiwedd fis Chwefror.
Pwrpas yr arolygiad gwerthuso perfformiad hwn yw adolygu pa mor dda y mae’r awdurdod lleol yn arfer ei ddyletswyddau a’i swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth.
Bydd yr Arolygiad Gwerthuso yn ceisio ateb pa mor dda y mae’r Awdurdod Lleol yn bodloni egwyddorion allweddol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sef; Pobl – llais a rheolaeth, Atal, Llesiant a Phartneriaethau. Bydd ffocws ar ba mor dda y mae’r Awdurdod Lleol yn darparu gwasanaethau ac yn cefnogi pobl i gadw eu hunain yn ddiogel a hybu eu llesiant eu hunain.
Maent am glywed am eich profiad chi o ofyn am wybodaeth, cyngor a chymorth, a byddant yn ceisio deall y gwahaniaeth y mae cael gwasanaethau wedi ei wneud i chi neu i'ch teulu.
Ni fydd yn rhaid i chi rannu unrhyw wybodaeth bersonol a gallwch aros yn ddienw. Fodd bynnag, os byddwch yn rhoi gwybod am rywun sy'n cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, mae dyletswydd gan AGC i rannu'r wybodaeth ag eraill er mwyn atal niwed pellach.
Ar ddiwedd yr arolygiad gwerthuso, bydd AGC yn rhannu’r canfyddiadau â'r Awdurdod Lleol er mwyn ystyried gwelliannau.
Cewch ddweud eich dweud hyd at 17 Mawrth 2023. Mae eich barn yn bwysig a gallwch gyfrannu at yr archwiliad dros y ffôn neu drwy alwad fideo trwy ffonio 0300 790 0126. Neu, gallwch gwblhau’r arolwg ar-lein: Arolygiad Gwerthuso AGC
Mae fformat Hawdd i'w Ddarllen yn cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd a bydd ar gael yn fuan.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon pellach, gallwch anfon neges e-bost at AGC.AwdurdodLleol@llyw.cymru
10/02/2023