Mae’r Cynghorydd Maldwyn Lewis wedi’i ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2023-24 mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ddydd Gwener 19 Mai 2023.

Daw hyn â chyfnod y Cynghorydd Ifan Davies i ben fel y Cadeirydd ar gyfer 2022-2023, lle mae wedi llywio’r Cyngor drwy gyfnod arwyddocaol iawn i’w ardal ac i’r sir wedi i’r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yng Ngheredigion ym mis Awst 2022, a hynny ar gyrion Tregaron.

Cafodd y Cadeirydd newydd, y Cynghorydd Maldwyn Lewis, ei ethol yn Gynghorydd Ward Troed-yr-Aur yn 2012 a 2019, ac yn dilyn ad-drefnu ffiniau, fe’i etholwyd i Ward Gogledd Llandysul a Throed-yr-Aur yn 2022. Mae’n wreiddiol o bentref Penrhiw-pâl, Rhydlewis, lle mae’n parhau i fyw a gweithio gyda’i fusnes teuluol, ac mae’n aelod o Gyngor Cymuned Troed-yr-aur.

Dywedodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis: “Mae’n fraint cael fy ethol yn Gadeirydd ar Gyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2023-2024, ac edrychaf ymlaen at lywio cyfarfodydd y Cyngor, a chynrychioli’r sir mewn gweithgareddau a digwyddiadau yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Rwy’n ei hystyried hi’n anrhydedd cael cynrychioli fy ardal a’r sir, ac rwy’n falch iawn cael byw a gweithio mewn ardal mor hyfryd o Geredigion.”   

Cadarnhawyd hefyd mai’r Cynghorydd Keith Evans, cynrychiolydd De Llandysul, fydd Is-gadeirydd y Cyngor.

Ychwanegodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Hoffwn longyfarch y Cynghorydd Maldwyn Lewis ar gael ei ethol yn Gadeirydd y Cyngor; y Cynghorydd Keith Evans yn Is-gadeirydd; a diolch yn ddiffuant hefyd i’r Cynghorydd Ifan Davies am ei waith diflino fel y Cadeirydd blaenorol.”

Holi’r Cyn-gadeirydd

Y Cynghorydd Ifan Davies, ward Tregaron ac Ystrad-Fflur, oedd Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion yn ystod 2022-2023. Dyma daro golwg yn ôl ar ei flwyddyn yntau.

  • Sut brofiad oedd bod yn Gadeirydd ar Gyngor Sir Ceredigion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?   

Roedd hi’n brofiad hollol unigryw a bythgofiadwy ac yn anrhydedd i gynrychioli’r sir fendigedig hon.

  • Beth oedd y peth gorau am eich profiad?  

Yn bendant, y balchder o gael cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron a honno’n ŵyl mor lwyddiannus gan ystyried dyma’r Eisteddfod gyntaf ar ôl y pandemig, yn ogystal â llwyddiant ysgubol Pentref Ceredigion ar y Maes. Roedd hi’n bleser cael yr anrhydedd o ymweld â thrigolion y sir wrth iddynt ddathlu 100 mlwydd oed, ynghyd â chwrdd â chymaint o bobl ar draws gwahanol meysydd a’r talent amlwg sydd gyda ni yn ein sir. 

  • Beth yw eich neges i’r Cadeirydd newydd? 

Mwynhewch y profiad anhygoel sydd o’ch blaen. 

19/05/2023