Mae Gwobrau Chwaraeon Ceredigion yn dathlu gwaith caled athletwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy'n gwneud i chwaraeon cymunedol ddigwydd.
Trefnwyd Gwobrau Chwaraeon Ceredigion gan Gyngor Chwaraeon Ceredigion a Ceredigion Actif er mwyn cydnabod a rhoi clod i bobl am eu llwyddiant a’u cyfraniad arbennig at chwaraeon.
Mae'r gwobrau ar gyfer pobl sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol o fewn y gymuned leol ac sy'n ymdrechu at ragoriaeth. Mae'n ffordd i gydnabod a diolch i bobl sy'n rhoi eu calon a'u henaid i chwaraeon yng Ngheredigion.
Y categorïau ar gyfer 2023 yw:
- Hyfforddwr/aig y Flwyddyn
- Gwobr Ryngwladol
- Gwobr Iau Talentog
- Gwobr Arwr/es Tawel
- Gwobr Gwirfoddolwr/aig Chwaraeon Anabledd y Flwyddyn
- Gwobr Llysgennad Ifanc Efydd y Flwyddyn
- Gwobr Llysgennad Ifanc y Flwyddyn
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau i Gwsmeriaid: “Os oes yna aelod o’ch clwb sy’n haeddu un o'r gwobrau hyn mi fydden i’n eich annog i’w henwebu. Gallai fod yn unigolyn ifanc sy’n perfformio ar lefel dda neu hyfforddwr/aig weithgar neu’n wirfoddolwyr diwyd. Mae’r gwobrau yma yn cydnabod y rhieny sy'n rhoi eu hamser i ysbrydoli chwaraewyr ifanc ac yn creu'r amgylchedd gorau iddyn nhw dyfu a dysgu. Os am enwebu ewch i wefan Ceredigion Actif.”
Am fwy o wybodaeth ac i enwebu unigolyn, ewch i: Gwobrau Chwaraeon Ceredigion - Ceredigion Actif
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Stefano.Antoniazzi@ceredigion.gov.uk
17/04/2023