Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion yn gofyn am farn trigolion ar droseddu ac anhrefn yn y sir a hynny drwy holiadur cyhoeddus.

Mae’r Bartneriaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Heddlu, yr Awdurdod Lleol, yr Awdurdod Tân ac Achub, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf, yn ogystal â sefydliadau eraill sy’n cael eu gwahodd. Rôl y Bartneriaeth yw gweithio gyda'i gilydd i amddiffyn cymunedau lleol rhag troseddau ac i helpu pobl i deimlo'n fwy diogel.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd: “Bydd yr adborth a gawn drwy’r holiadur yma yn chwarae rôl bwysig wrth gynorthwyo ein Partneriaeth Diogelwch Cymunedol i nodi materion presennol a bygythiadau posib a allai gael effaith ar Geredigion yn y dyfodol.

Er mwyn cefnogi’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i gadw Ceredigion yn ddiogel, gall trigolion ymateb i’r holiadur ar-lein. Gellir lawrlwytho'r ffurflen ymateb a'i dychwelyd drwy e-bost neu ei phostio i'r cyfeiriad a nodir ar ddiwedd y ffurflen. Mae copïau papur ar gael yn holl lyfrgelloedd Ceredigion, gan gynnwys faniau’r llyfrgell symudol.

Dywedodd Barry Rees, Cadeirydd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion a Chyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion: “Mae dadansoddi data gan asiantaethau a barn y cyhoedd yn hanfodol er mwyn cael golwg ar faterion pwysig megis ofn troseddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnydd cyffuriau ac alcohol. Hefyd bydd hyn yn helpu wrth ddyrannu adnoddau yn effeithiol a blaenoriaethu gweithgarwch at y dyfodol.”

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu fersiynau mewn fformatau eraill, ffoniwch 01545 570881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk. Mae’r holiadur ar agor o hanner dydd ar 31 Ionawr 2023 hyd hanner dydd ar 28 Mawrth 2023.

Bydd canfyddiadau’r ymgysylltu yma yn cael eu cyhoeddi ar wefan Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion ym mis Mehefin 2023.

30/01/2023