Gofynnir i bobl fynegi eu barn am ddarpariaeth Gwasanaethau Seibiant a Gwasanaethau Dydd yng Ngheredigion.

Ar hyn o bryd rydym yn ail-wampio ein hystod o ddarpariaethau gwasanaeth er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau presennol ac yn y dyfodol.

Bydd yr ymgynghoriad yn gyfle i adolygu, datblygu a gweithredu ailwampio darpariaethau gwasanaethau ar gyfer unigolion gydag anghenion asesiedig, gan gynnwys unigolion ag Anabledd Dysgu ac Oedolion Hŷn. Bydd yn cynnwys darpariaeth dydd a seibiant tymor byr gydol oes lle bydd y ffocws ar waith gofal a chynllunio cymorth sy’n canolbwyntio ar y unigolyn sy’n derbyn y gwasanaeth.

Rydym yn gofyn am farn defnyddwyr gwasanaeth, eu perthnasau a gofalwyr, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach i helpu i lunio ein cynigion er budd ein hunigolion bregus yng Ngheredigion.

Mae angen i ni ddeall anghenion y boblogaeth ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, gan gynnwys teuluoedd plant ifanc a fydd yn defnyddio'r gwasanaeth yn y 10 i 20 mlynedd nesaf.

Mae hyn yn rhan o’r Rhaglen Llesiant Gydol Oes. Mae tri gwasanaeth yn rhan ohono, sef: Porth Cymorth Cynnar, Porth Gofal a Phorth Cynnal. Mae’r rhaglen yn nodi’r pryderon llesiant sydd gan bobl yn gynnar ac yn atal uwchgyfeirio, lle bo’n bosibl, trwy ymateb mewn modd amserol a chymesur.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Aelod Cabinet dros Lesiant Gydol Oes: "Mae pethau wedi newid tipyn dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, mae'n amser da i ymgynghori eto gyda defnyddwyr ein gwasanaethau a gofalwyr i weld sut y gallwn eu helpu orau yn y byd modern. Rydym wedi ymrwymo i wella bywydau ein pobl fregus yn y sir. Rydym yn credu mai'r ffordd orau o wneud hynny yw helpu pobl i fyw mor annibynnol ag y gallan nhw tra'n darparu gwasanaethau rhagorol pan fydd angen arnynt. Rwy'n annog unrhyw un sy'n defnyddio ein gwasanaethau ar hyn o bryd, yn gofalu am rywun sy'n derbyn gwasanaeth neu'n rhagweld bod eu hangen yn y dyfodol, i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad pwysig hwn a fydd yn helpu i lunio'r ffordd y mae ein gwasanaethau dydd a seibiant yn edrych yn y blynyddoedd i ddod."

Mae’r ymgynghoriad yn cael ei weithredu gan Practice Solutions a bydd yn fyw am 12 wythnos tan 21 Mehefin 2023.

Gall defnyddwyr gwasanaeth ddweud eu barn gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein hon: www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/gwasanaethau-seibiant-a-gwasanaethau-dydd-ceredigion/

Os ydych angen y wybodaeth mewn ffurf Hawdd i'w Ddarllen, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.

29/03/2023