Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal i gasglu barn am Strategaeth Tai Lleol newydd ar gyfer Ceredigion.

Mae’r Strategaeth Tai Lleol cyfredol wedi bod mewn grym ers 2018. O ganlyniad, mae’r Strategaeth wedi cael ei hadolygu a’i diweddaru. Mae’n amlinellu gweledigaeth ar gyfer “llety digonol, addas a chynaliadwy i fodloni anghenion preswylwyr nawr ac yn y dyfodol.”

Y bwriad yw i'r Awdurdod Lleol chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu dull o ymdrin â thai ar draws pob deiliadaeth a sicrhau y darperir tai priodol a gwasanaethau cysylltiedig er mwyn diwallu anghenion lleol.

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am 8 wythnos ac yn dod i ben ar 30 Mehefin 2023. Gallwch gyflwyno eich safbwyntiau a’ch syniadau yma: Dweud eich dweud ar Strategaeth Tai Lleol Ceredigion

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu, a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae’r Strategaeth Tai yn cydnabod y rôl bwysig y mae Tai yn ei chwarae, ynghyd â’r dylanwad y mae’n ei gael ar iechyd a lles unigolion, teuluoedd a’r gymuned ehangach, ac mae’n parhau i fod yn ystyriol o’r iaith Gymraeg a’r diwylliant. Mae’n bwysig ein bod yn deall ac yn ystyried gofynion cenedlaethau’r dyfodol, eu hanghenion, a’u dewisiadau o ran sut y gellir darparu ar eu cyfer. Mae arnom angen tai y gellir eu haddasu ac sy’n gallu cynnal pobl ar wahanol adegau o’u bywydau. Bydd hyn yn mynd yn bell i sicrhau poblogaeth iachach, ochr yn ochr â gwneud gwell defnydd o’r stoc tai presennol, a gwell safonau ac amodau byw.”

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad, neu os oes arnoch angen copi o’r Strategaeth Tai Ddrafft a’r ymgynghoriad mewn fformat hygyrch, anfonwch e-bost i localhousingstrategy@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid Clic ar 01545 570881.

Mae Strategaeth Tai Lleol Ceredigion yn cyd-fynd ag Amcanion Llesiant Ceredigion ar gyfer 2022-2027.

05/05/2023