Mae tymor torri glaswellt Ceredigion wedi hen ddechrau, gyda llawer o'r lleoliadau rydym yn eu rheoli eisoes wedi derbyn eu toriad cyntaf.

Bydd rhai trigolion wedi sylwi ar wahaniaeth i'r toriad eleni gan ein bod yn cofleidio No Mow May a thu hwnt yn llawn. Mae hyn yn golygu y bydd y mannau agored mwyaf gan gynnwys rhai o'r ardaloedd ffurfiol ynghyd â’r ardaloedd ger priffyrdd ond yn derbyn toriad rhwng Ebrill a chanol Gorffennaf i sicrhau bod modd gweld yn glir. Ar ôl y cyfnod hwn bydd arddull fwy traddodiadol o dorri yn ailddechrau, lle bydd toriad llawn a gwasanaeth casglu’r glaswellt yn dilyn.

Dros y blynyddoedd nesaf, bydd y newid hwn yn y torri gwair yn gwella'r ystod amrywiol o fflora a ffawna yn ein hystâd werdd drefol. Ar ôl canol mis Gorffennaf, bydd pob safle sydd wedi derbyn toriad ger priffyrdd, yn destun archwiliad i werthuso a yw'n barod i'w dorri, er mwyn sicrhau bod mwyafrif y blodau gwyllt yn y glastir wedi gorffen blodeuo. Gall hyn olygu nad yw rhai ardaloedd yn cael eu torri tan Awst neu hyd yn oed Medi.

Mae'r newid hwn yn cael ei ysgogi gan yr angen i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac i wneud pethau'n wahanol. Yn gynnar yn y tymor, byddwn yn torri llai o laswellt ac yn gwneud llai o deithiau mewn cerbydau i waredu'r glaswellt. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd lleol ac ehangach. Yn ddiweddarach yn y tymor byddwn yn defnyddio peth o'r adnodd hwnnw sydd wedi'i arbed i dorri a chasglu'r glaswellt. Bydd rhan fwyaf o'r glaswellt yn cael ei gompostio yn lleol. 

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd, Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: "Mae'r drefn torri glaswellt newydd yn wych i'r amgylchedd lleol ac yn cefnogi ein hymdrechion i ddiogelu’r ardaloedd glaswelltog hyn. Mae'r dull a fabwysiadwyd yn rhoi cydbwysedd rhwng diogelu cynefinoedd, diogelwch y cyhoedd a chynnal budd esthetig y tir hwn.

Fel rhan o ymgyrch No Mow May, rhyddhewch y blodau gwyllt yn eich lawnt fel y gallant dyfu'n wyllt a darparu gwledd i beillwyr, mynd i'r afael â llygredd, a chloi carbon atmosfferig o dan y ddaear. Rydym yn monitro ac yn adolygu cyflwyno'r dull newydd yn barhaus ac, fel bob amser, yn croesawu adborth gan y cyhoedd. Gellir anfon adborth at Clic, ein tîm gwasanaethau cwsmeriaid."

Gellir cysylltu â’n Canolfan Gyswllt Clic ar 01545 570 881 neu drwy e-bost ar clic@ceredigion.gov.uk.

24/05/2023