Roedd Ceredigion yn llawn bwrlwm yr wythnos diwethaf yn rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi. Un o’r digwyddiadau oedd dathliad Dydd Gŵyl Dewi Tregaron, a gynhaliwyd ddydd Mercher, 01 Mawrth 2023.

Roedd Ceredigion yn llawn bwrlwm yr wythnos diwethaf yn rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi. Un o’r digwyddiadau oedd dathliad Dydd Gŵyl Dewi Tregaron, a gynhaliwyd ddydd Mercher, 01 Mawrth 2023.

Daeth dros 300 o bobl at ei gilydd yn Neuadd y Dref, gan gynnwys disgyblion Ysgol Pontrhydfendigaid, Ysgol Rhoshelyg ac Ysgol Henry Richard – nifer helaeth ohonynt mewn gwisg Gymreig ac yn chwifio baneri’r Ddraig Goch a baneri yn arbennig i‘r dathliad. Cafwyd adloniant pwrpasol gydag eitemau gan ddisgyblion y tair ysgol ynghyd a’r band iwcwlele lleol, Y Pictons.

Cafwyd anerchiad bwrpasol gan Gadeirydd Cyngor Tref Tregaron, y Cynghorydd Rhydian Wilson, a ddywedodd: “Mae’n ffantastig gweld y gymuned yn dod at ei gilydd unwaith eto ar ôl tair blynedd hir – i ddathlu gŵyl ein nawddsant.”

Roedd Cadeirydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Ifan Davies, hefyd yn bresennol a dywedodd yntau: “Dyma ein diwrnod ni. Diwrnod i ddathlu nid yn unig ein nawddsant ond diwrnod i ymfalchïo yn ein Cymreictod. Mae mor bwysig ein bod yn parhau i wneud hyn er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i’r genhedlaeth nesaf.”

Dywedodd Rhodri Francis, Swyddog Datblygu Cered, Menter Iaith Ceredigion: “Mae wedi bod yn wych gweld cannoedd o bobl ifanc Tregaron yn mwynhau siarad Cymraeg mewn digwyddiad arbennig i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Catrin M.S Davies, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Ddiwylliant: “Ar ôl tair blynedd o fethu cynnal digwyddiadau Gŵyl Ddewi yn ddiogel mi oedd hi’n wych gweld cymaint o gyngherddau, gigs, pareds, teithiau cerdded ac ati yn cael eu trefnu eleni a phob un yn denu llawer iawn o bobl i fwynhau dathlu dydd ein nawddsant ac i wneud y pethau bychain. Mae nifer fawr o drigolion y sir yn defnyddio’r Gymraeg yn feunyddiol ond i’r rheiny sydd yn fwy swil neu’n ansicr am y Gymraeg y mae’n rhoi ffocws iddyn nhw a chyfleoedd i fwynhau achlysur Cymreig lleol ac i ymarfer eu Cymraeg.”

Y bwriad yw gwneud y digwyddiad hwn yn rhan o galendr digwyddiadau blynyddol tref Tregaron.

Gwylliwch fideo o’r digwyddiad yma:

06/03/2023