Bydd proses ymgynghori lawn yn dechrau cyn hir i ystyried newid cyfrwng iaith yn y Cyfnod Sylfaen mewn pum ysgol gynradd yng Ngheredigion.

Daw hyn yn dilyn penderfyniad Cabinet y Cyngor i gymeradwyo camau nesaf Cynllun Gweithredu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2023.

Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 yn cynnwys saith o ddeilliannau i gryfhau’r Gymraeg. Un o’r rheiny yw creu mwy o gyfleoedd i blant o bob oed i dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn bennaf.

O ganlyniad, yn ystod cyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd ddydd Mawrth 02 Mai 2023, cytunwyd i ddechrau ar y broses ymgynghori i newid cyfrwng iaith yn y Cyfnod Sylfaen yn ysgolion Comins Coch, Llwyn yr Eos, Padarn Sant, Plascrug a Cheinewydd.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, yr Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Trwy gyflwyno a gweithredu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, rydym am roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant a galluogi pobl o bob oed i ddysgu, sef un o amcanion corfforaethol y Cyngor dros y bum mlynedd nesaf. Mae’r cynnig hefyd am gefnogi dyhead Cyngor Sir Ceredigion i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg drwy ei Strategaeth Iaith, a chefnogi nod Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Y nod felly yw addysgu disgyblion i fod yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol gynradd, a’u galluogi i gymryd rhan lawn yn y gymuned ddwyieithog y maent yn rhan ohoni.”

Disgwylir i'r dogfennau ymgynghori ar newid cyfrwng iaith y pum ysgol dan sylw gael eu cyhoeddi yn nhymor yr hydref eleni.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth a darllen am amcanion eraill Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 yma: Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 

 

03/05/2023