Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau ar gyfer Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf yw 28 Chwefror 2023.

Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro gwerth £200 i’w helpu i dalu eu costau tanwydd.

Yng Ngheredigion, mae mwy na 6,500 o breswylwyr wedi cael taliad i helpu gyda chostau byw, felly sicrhewch nad ydych chi’n colli’r cyfle.

Lansiwyd Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf gan Llywodraeth Cymru ac mae ar agor i bob aelwyd lle mae’r sawl sy’n gwneud cais neu ei bartner yn gyfrifol am dalu’r biliau ynni ac yn derbyn budd-daliadau.

Os nad yw’r ymgeisydd na’i bartner sydd yn gyfrifol am dalu’r biliau ynni yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau cymhwyso, efallai y byddant yn gallu ymgeisio os oes unigolyn cymwys yn byw gyda nhw.

Mae mwy o wybodaeth am y meini prawf cymhwyso ar wefan y Cyngor lle gallwch wirio a ydych yn gymwys: Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf 

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Cyllid a Chaffael: “Mae’n galonogol gweld bod cynifer o drigolion Ceredigion eisoes wedi manteisio ar y cynllun pwysig hwn. Hoffwn annog unrhyw un sy’n meddwl y gallent fod yn gymwys i wirio’r meini prawf cymhwyso ac ymgeisio cyn y dyddiad cau ar 28 Chwefror, a rhannu’r wybodaeth â’u ffrindiau a’u teuluoedd.”

Gellir cyflwyno cais hyd at 5pm ar 28 Chwefror 2023 ar wefan y Cyngor: Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf 

Os oes arnoch angen help a chymorth i wneud cais, ffoniwch gwasanaethau i gwsmeriaid CLIC ar 01545 570881 neu anfonwch e-bost i clic@ceredigion.gov.uk, neu galwch heibio eich llyfrgell leol am gymorth.

16/02/2023