Bydd staff Cyngor Sir Ceredigion a staff darparwyr gofal cymdeithasol yng Ngheredigion yn elwa o brofiad dysgu newydd drwy hyfforddiant Realiti Rhithwir.

Mae Tîm Dysgu a Datblygu'r Cyngor yn darparu hyfforddiant ar Brofiadau Niweidiol adeg Plentyndod (ACE) a Thrawma drwy ddefnyddio Realiti Rhithwir.

Mae defnyddio clustffonau Realiti Rhithwir yn darparu profiad dysgu ymgolli ac yn caniatáu i'r cyfranogwyr brofi effaith profiadau niweidiol adeg plentyndod o safbwynt plentyn. Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gynnwys trawma, esgeulustod a cham-drin a all effeithio ar ymddygiad plentyn a'u dyfodol. 

Y Cynghorydd Bryan Davies yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a’r Aelod Cabinet ar gyfer Pobl a Threfniadaeth. Dywedodd: “Rydym yn gwerthfawrogi gwaith darparwyr a staff gofal cymdeithasol yng Ngheredigion ac rydym wastad yn ceisio gwella'r hyfforddiant rydym yn ei gynnig i'w cefnogi. Bydd gwell dealltwriaeth o effaith ACE a thrawma yn helpu staff yn eu rôl i ddiogelu a chefnogi plant a phobl ifanc yng Ngheredigion.

Mae cyfranogwyr wedi gwneud sylwadau ar ba mor bwerus yw Realiti Rhithwir gan ei fod yn dod â phrofiadau plant yn fyw a pha mor wahanol yw gwylio fideo. Rydym yn edrych ymlaen at ehangu ein defnydd o Realiti Rhithwir yn y dyfodol.”

05/05/2023