Ar 01 Mawrth, bydd y faner yn chwifio ynghyd ȃ gweithgareddau lu i dathlu Dydd Gŵyl Dewi yng Ngheredigion.

Mae Dydd Gŵyl Dewi yn ddiwrnod arbennig lle rydym yn dathlu Cymru, ein pobl, ein hiaith ynghyd ȃ’r diwylliant unigryw sy’n perthyn i ni gyd. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn nodi’r diwrnod gydag amryw o weithgareddau i’w mwynhau ac i annog cyfranogiad.

Mae’r Cyngor yn bwriadu dathlu Dydd Gŵyl Dewi mewn ffordd arbennig iawn eleni. Fe wnaethom gynnal cystadleuaeth tynnu llun, er mwyn creu cefndir corfforaethol ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. I ddathlu’r diwrnod byddwn yn cynnal cwis hwyliog yn rhithiol ar blatfform Teams, gan estyn gwahoddiad i holl aelodau staff ymuno yn yr hwyl, yn siaradwyr Cymraeg, siaradwyr swil, yn ddysgwyr neu’n ddi-Gymraeg.  

Ar y dydd hwn, rydym yn cofio am ein nawddsant Dewi Sant a’i neges i ni wneud y pethau bychain. Gwyliwch ein fideo ‘Gwnewch y pethau bychain yn Gymraeg.’

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Bryan Davies: ”Mae Dydd Gŵyl Dewi ar gyfer pawb sy’n caru Cymru ac am weld Cymru’n ffynnu, beth bynnag eu cefndir. Mae Cymreictod yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl. Fodd bynnag, fel sir sydd yn gyforiog mewn traddodiad a diwylliant Cymreig, yn ogystal â bywiogrwydd ieithyddol, hwn yw’r amser delfrydol i’r Cyngor ddathlu ac i ymfalchïo yn ein treftadaeth. Gwisg genhinen yn dy gap, a gwisg hi yn dy galon!”

Cofiwch hefyd ymuno â’r gorymdeithiau Gŵyl Dewi sy’n cael eu trefnu ar hyd a lled y Sir. A fyddwch chi’n cymryd rhan mewn Parêd Gŵyl Dewi yn eich tref agosaf?

  • Aberaeron: 9.30am dydd Mercher, 1 Mawrth
  • Tregaron: 1.15pm dydd Mercher, 1 Mawrth
  • Llanbed: 10.45pm dydd Sadwrn, 4 Mawrth
  • Aberystwyth: 1.00pm dydd Sadwrn, 4 Mawrth

Dydd Gŵyl Dewi Hapus i bawb!

28/02/2023