Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru wedi cyhoeddi strategaeth dementia ranbarthol 5 mlynedd, sydd wedi'i datblygu drwy ymgysylltu â phobl â dementia, gofalwyr, a staff iechyd a gofal cymdeithasol ledled y rhanbarth.

Mae'r strategaeth yn cefnogi'r gwaith y mae'r Bwrdd Partneriaeth eisoes yn ei wneud, yn unol â Chynllun Gweithredu Dementia Llywodraeth Cymru a Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan, gan weithio tuag at wella gofal dementia yng Nghymru a'i gwneud yn wlad sy'n cefnogi dementia. Mae pob aelod o'r bartneriaeth wedi cytuno ar y strategaeth bellach.

Mae dementia yn fater i bawb. Ein gweledigaeth ar gyfer Gorllewin Cymru yw cefnogi pob person â dementia i fyw'n dda ac yn annibynnol cyhyd ag y bo modd. Mae'r strategaeth yn amlinellu Llwybr Llesiant Dementia Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru, sy'n sicrhau bod pobl â dementia a'u gofalwyr wrth ei wraidd.

Mae'r strategaeth yn cydnabod y gall iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi'i gydgysylltu'n dda gryfhau perthynas pobl â'i gilydd. Mae hefyd yn darparu cymorth mewn cymunedau lleol y gallwn ni fanteisio arno i fyw'n dda a chanolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i ni.

Drwy ymgysylltu ledled y rhanbarth, nodwyd y themâu allweddol canlynol fel meysydd ffocws yn y strategaeth:

  • Llesiant, lleihau risg, oedi dechreuad, codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth
  • Cydnabod, nodi, cefnogi a hyfforddi
  • Asesu a diagnosis
  • Byw'n iach gyda dementia
  • Mwy o gymorth pan fydd ei angen arnoch

Mae'r Bwrdd Partneriaeth eisoes wedi dechrau darparu gwasanaethau yn wahanol, er mwyn cyflawni ei weledigaeth. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys lansio Gwasanaeth Nyrsys Admiral yn 2021, sef partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Dementia UK, sy'n rhoi sylw i ddarparu gofal dementia sy'n canolbwyntio ar berthynas i alluogi teuluoedd, gofalwyr a phobl â dementia i wella eu llesiant gymaint ag y bo modd.

Enghraifft arall o'r fath yw prosiect Cymunedau sy'n Cefnogi Dementia yn Sir Benfro, a ddarperir gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro. Enillodd y prosiect wobr genedlaethol yn 2022 am ei waith yn helpu pobl â dementia i sicrhau'r ansawdd bywyd gorau posibl, teimlo'n rhan o'u cymuned, teimlo'n hyderus, eu bod yn cael eu deall a'u parchu, ac i barhau i fwynhau eu hobïau a'u diddordebau.

Dywedodd Judith Hardisty, Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Er mwyn gwella bywydau pobl mae dementia yn effeithio arnynt, mae angen i ni feddwl yn wahanol am sut rydym yn trefnu ac yn ariannu gofal dementia, gan ddysgu o ffyrdd newydd a mwy effeithiol o wneud pethau a buddsoddi ynddynt. Mae Strategaeth Dementia Gorllewin Cymru yn gam nesaf pwysig o ran cydweithio rhanbarthol i gyflawni'r uchelgeisiau hyn.

“Mae'r strategaeth wedi'i llunio gan bobl â dementia a'u gofalwyr, ac mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn cydnabod bod yn rhaid i bobl mae dementia yn effeithio arnynt gymryd rhan weithredol mewn datblygu a chyflawni'r strategaeth, er mwyn sicrhau bod y gwaith yn parhau i adlewyrchu anghenion, profiadau, a blaenoriaethau ein cymunedau.”

Y Cynghorydd Alun Williams yw Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Llesiant Gydol Oes. Dywedodd:  “Mae dementia yn dod yn fater mwyfwy pwysig i gymdeithas ac mae'n braf iawn gweld pawb yn cydweithio yn rhanbarthol i helpu. Bydd llawer o'r mesurau y gallwn eu rhoi ar waith i wneud bywyd yn haws i'r rhai â dementia yn gwella cymdeithas i bawb. Rwy'n edrych ymlaen at weld y strategaeth newydd yn cael ei rhoi ar waith ac yn gwella bywydau.”

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rwy'n croesawu cyhoeddi'r strategaeth dementia ranbarthol a'r cydweithio rhwng yr holl bartneriaid i gefnogi pobl â dementia ynghyd â'u teuluoedd a'u gofalwyr.”

Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu, Cyngor Sir Penfro: “Rwy'n croesawu'r Strategaeth Dementia Ranbarthol a'i ffocws ar helpu pobl â dementia i fyw'n dda ac yn annibynnol cyhyd ag y bo modd. Mae'r prosiect Cymunedau sy'n Cefnogi Dementia yn Sir Benfro yn enghraifft wych o sut y gellir helpu pobl â dementia i sicrhau bywyd o ansawdd uchel yn eu cymunedau ac mae'n braf bod Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro wedi derbyn gwobr genedlaethol i gydnabod ei gwaith gyda'r prosiect hwn.”

Mae partneriaid Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn cynnwys Cyngor Sir Penfro, Cyngor Ceredigion a Chyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gwasanaethau'r trydydd sector, cynghorau gwirfoddol cymunedol ac, yn bwysig ddigon, pobl â dementia, yr oedd eu lleisiau wedi llunio'r strategaeth hon ac a fydd yn elwa fwyaf o'i rhoi ar waith yn llwyddiannus.

19/05/2023