Rydym am glywed gan y cyhoedd am syniadau ar sut i wario’r arian a wnaed yn dilyn gwerthu Hen Ysgol Sirol Tregaron.

Cedwir £100,645 yn dilyn gwerthu’r eiddo ym mis Chwefror 2022.

Mae’r arian yn cael ei gadw ar hyn o bryd gan elusen Cardiganshire Intermediate and Technical Fund, lle mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymddiredolwr. Mae is-grŵp wedi cael ei sefydlu i edrych ar sut i ddefnyddio’r arian hwn, ac yn cynnwys aelodau o Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Tref Tregaron, Ysgol Henry Richard a Chylch Meithrin Tregaron.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal am 8 wythnos ac yn dod i ben ar 10 Mai 2023 i gasglu syniadau am sut orau i wario’r arian. Rhaid defnyddio’r arian i wella addysg yn yr ardal ar gyfer plant 3-16 oed yn Nhregaron.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau: “Mae’r arian a godwyd trwy werthu adeilad yr hen ysgol yn gyfle gwych i wneud cyfraniad cadarnhaol at addysg, iaith a dyfodol ein hieuenctid. Hoffwn annog holl drigolion yr ardal i gyflwyno eu syniadau unigol.”

Gallwch gyflwyno eich syniadau trwy’r ffurflen ymgynghori ar-lein yma: Hen Ysgol Sirol Tregaron 

Fel arall, gallwch gael copi trwy e-bost trwy gysylltu â clic@ceredigioon.gov.uk a dylid dychwelyd yr ymateb i’r un cyfeiriad e-bost. Os bydd arnoch angen copi papur yn y post neu fformat arall, cysylltwch â clic@ceredigion.gov.uk neu 01545 570881.

Os byddwch yn profi unrhyw anawsterau i ymateb, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost neu’r rhif ffôn a nodir uchod i nodi hyn.

Pan fydd penderfyniad wedi cael ei wneud, bydd pobl Tregaron yn cael gwybod am sut y bydd yr arian yn cael ei wario trwy gyhoeddi’r penderfyniad ar wefan Cyngor Sir Ceredigion ac ar y cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â rhoi gwybod i sefydliadau amrywiol.

21/03/2023