Beth am ddechrau eich gyrfa gyda phrentisiaeth yng Ngheredigion?

Mae nifer o gyfleoedd prentisiaeth bellach ar gael gyda Cyngor Sir Ceredigion.

Mae’r rolau a gynigir yn cynnwys Dylunio Cynnwys a Dysgu Digidol, Cymorth TGCh, Gweithgarwch Corfforol a Chwarae, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chymorth i Fusnesau.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet ar gyfer Pobl a Threfniadaeth: “Rydym yn falch iawn o gynnig y prentisiaethau hyn. Maent yn cynnig y cyfle i ennill cymhwyster lefel 2 neu lefel 3 ac maent yn ffordd wych o ennill arian wrth ddysgu. Mae prentisiaethau yn ddewis amgen gwych i’r Brifysgol a’r ddyled sydd ynghlwm â hynny ac mae llawer o’r prentisiaid yr ydym wedi’u cefnogi wedi cael swydd barhaol gyda’r Cyngor ac yn chwarae rhan bwysig yn ein darpariaeth gwasanaeth.”

Gallwch ddod o hyd i’r rolau prentisiaeth sydd ar gael ar safle swyddi’r Cyngor. Y dyddiad cau i ymgeisio yw 11 Mehefin 2023.

Gwyliwch y fideo hwn i glywed profiadau unigolion sydd eisoes wedi elwa o’r cynllun:

25/05/2023