Yn dilyn llwyddiant y blynyddoedd blaenorol, mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn cyfle gan gwmni West Wales Holiday Cottages er mwyn cefnogi pobl ifanc gyda bwrsari ariannol eleni eto.

Bwriad y bwrsari yw cynnig cyfle gwerth £1,500 i bobl ifanc rhwng 11-25 fedru ymgeisio amdano, i’w helpu gyda’u dyheadau yn y dyfodol. Dewisir y cais neu geisiadau llwyddiannus gan Fforwm Ieuenctid Ceredigion, sy'n banel o bobl ifanc o bob rhan o Geredigion.

Dywedodd Gwion Bowen, Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion: “Rydym yn ddiolchgar iawn ac yn werthfawrogol i ‘West Wales Holiday Cottages’ am roi'r cyfle hwn i ni ar gyfer pobl ifanc yng Ngheredigion eleni eto. Fel ein hunain, mae ‘West Wales Holiday Cottages’ yn cydnabod y gall nifer o bobl ifanc sy'n byw yng Ngheredigion brofi anawsterau wrth gael mynediad at hyfforddiant, cefnogaeth a gweithgareddau cymdeithasol oherwydd materion economaidd-gymdeithasol. Roedd y fwrsariaeth yn hynod o lwyddiannus y llynedd, gyda thri pherson ifanc yn cael cymorth ariannol i'w helpu gyda'u prosiectau. Rydym yn gobeithio bydd y fwrsariaeth yn llwyddiant eto eleni, ac y bydd o fudd i berson (pobl) ifanc yng Ngheredigion.”

Y Cynghorydd Wyn Thomas yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Dywedodd: “Mae’n grêt i glywed am gyfleoedd fel hyn yng Ngheredigion sy’n galluogi pobl ifanc i ddilyn eu diddordebau a'u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Cafodd y Gwasanaeth Ieuenctid gryn ddiddordeb y llynedd, ac rwy’n gobeithio y bydd yn derbyn fwy o ddiddordeb y flwyddyn hon. Hoffwn i ddymuno’r gorau i bobl ifanc yng Ngheredigion.”

Oes angen cymorth ariannol arnoch chi i gyrraedd eich nodau? A fyddech chi'n elwa o gymorth ariannol i’ch helpu gyda hyfforddiant neu offer sydd eu hangen ar gyfer eich galwedigaeth ddewisol? Ydych chi'n chwilio am gefnogaeth i gychwyn eich menter eich hun? Ydych chi'n aelod o grŵp cymunedol ac yn chwilio am gymorth ariannol i brynu offer neu adnoddau?

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos 31 Gorffennaf 2023. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Gwion Bowen o Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar 07790 812939 neu e-bostiwch Gwion.Bowen@ceredigion.gov.uk am ffurflen ymgeisio.

Am fwy o wybodaeth neu i ddod o hyd i’r cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch draw i’w tudalen Facebook, Instagram neu Twitter ar @GICeredigionYS neu cysylltwch â’r tîm ar PorthCymorthCynnar@ceredigion.gov.uk.

26/05/2023