Ceinewydd yw un o’r tlysau niferus yng nghoron Ceredigion. Mae’n gyrchfan boblogaidd iawn y mae pobl leol ac ymwelwyr yn ei mwynhau a’i gwerthfawrogi. Ac eto, yn ystod y cyfnodau prysur, gall hyn achosi rhai problemau, gan gynnwys y rheiny sy’n gysylltiedig â gwastraff a sbwriel.

Rydym yn gwybod y gall biniau sy’n cael eu gosod mewn lleoliadau amhriodol greu mwy o broblemau nag y maent yn eu datrys. Dyna oedd yr achos gyda’r biniau ar draethau Ceinewydd. Dyma’r unig leoliad yng Ngheredigion lle rydym wedi treialu hyn, ac yn anffodus, nid yw wedi gweithio. Maent wedi achosi anawsterau gweithredol yn ogystal â phryderon o ran iechyd a diogelwch, gan arwain at broblemau amgylcheddol. Yn ystod misoedd y gaeaf, rydym wedi adolygu’r trefniadau ar gyfer darparu biniau sbwriel a’u gwagio yn y dref.

O ganlyniad i’r adolygiad, byddwn yn gwneud newidiadau yn ystod 2023 i ddylanwadu’n gadarnhaol ar y materion hyn. Yn ogystal ag adolygu maint, math a lleoliad y biniau sbwriel, byddwn yn ceisio cynyddu pa mor aml y cânt eu gwagio yn ystod y cyfnodau prysuraf.

  • Bydd dros 40 o finiau sbwriel yng Ngheinewydd
  • Bydd hyn yn cynnwys capasiti o dros 8,000 litr
  • Byddwn yn eu gwagio hyd at 3 gwaith y dydd yn ystod yr haf
  • Gall hyn golygu hyd at 24,000 litr o sbwriel y dydd, neu 168,000 litr o sbwriel yr wythnos

Yng Ngheredigion, mae’r biniau cyffredinol ar y stryd yno ar gyfer sbwriel wrth fynd a baw cŵn mewn bagiau. Mae’n anghyfreithlon ceisio rhoi gwastraff domestig neu fasnachol yn y biniau hyn neu dipio’n anghyfreithlon o’u cwmpas. Yn anffodus, mae’r materion hyn wedi’u gweld yng Ngheinewydd. Trwy dderbyn baw cŵn mewn bagiau i’r biniau gwastraff cyffredinol yng Ngheredigion, rydym yn gallu cynyddu lefel y ddarpariaeth yn y ffordd fwyaf effeithlon bosibl.

Y disgwyliad rhesymol ac sydd wedi’i hen sefydlu yw y dylai pobl ddefnyddio’r bin sbwriel agosaf neu fynd â’u sbwriel adref gyda nhw. Mae hyn yn cynnwys wrth ymweld â thraethau.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Rydym yn adolygu ein dull yn barhaus o ran cyflenwi gwasanaethau rheng-flaen yn weithredol, gan gynnwys glanhau strydoedd a rheoli biniau sbwriel, gyda’r bwriad o wneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael ar hyd a lled Ceredigion. Fodd bynnag, nid yw’r rhain yn faterion i’r Cyngor Sir yn unig, ac fel rhan o Caru Ceredigion, bydd angen ymgysylltiad cadarnhaol arnom gan randdeiliaid lleol.

“Mae hyn yn cynnwys cynnal, datblygu a hyrwyddo’r proffil cadarnhaol iawn y mae Ceinewydd, yn yr achos hwn, yn ei haeddu, a Cheredigion yn ehangach, fel lle gwych i fyw ac ymweld ag ef. Rhannwyd y cynigion ar gyfer Ceinewydd yn 2023 â Chyngor Tref Ceinewydd yn gynharach yn y flwyddyn. Rydym yn gobeithio gweithio gyda nhw a rhanddeiliaid eraill ac edrychwn ymlaen at glywed am y mentrau a’r ymyriadau rhagweithiol y byddant yn eu harwain i gefnogi Caru Ceredigion a sicrhau bod Ceinewydd yn parhau i edrych ar ei orau er mwynhad pawb. Hoffwn gydnabod a diolch yn ddiffuant i’r unigolion, grwpiau, Cynghorau Tref a Chymuned ar hyd a lled y sir sy’n chwarae rhan ragweithiol i gadw Ceredigion yn lân.”

Fel rhan o Caru Ceredigion, rydym yn ceisio datblygu partneriaethau cadarnhaol, rhagweithiol ac ystyrlon ag eraill sydd wedi rhannu ein diddordeb yn y materion hyn. Gyda hynny mewn golwg, byddwn yn ymgysylltu â busnesau yng Ngheinewydd i feithrin ymwybyddiaeth a’u hatgoffa o’u rôl a’u cyfrifoldeb i ymdrin â gwastraff yn gyfreithlon ac yn gyfrifol.

13/03/2023