Ydych chi wedi gweld sticeri Hapus i Siarad o gwmpas Aberteifi? Efallai y byddwch yn gweld mwy ohonynt yn y dyfodol agos wrth i Cered: Menter Iaith Ceredigion gyhoeddi eu bod am ail-lansio’r cynllun poblogaidd er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg ym musnesau canol y dref.

Sefydlwyd ‘Hapus i Siarad’ yn wreiddiol yn 2013 a’i nod oedd normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg ar lafar mewn siopau, caffis a thafarndai lleol, ac fe ddarparwyd sticeri i fusnesau oedd yn cymryd rhan i osod yn eu ffenestri a bathodynnau i siaradwyr Cymraeg eu gwisgo.

Tra bod Aberteifi wedi newid llawer dros y ddegawd ers lansio’r cynllun mae sticeri Hapus i Siarad dal i’w gweld mewn sawl lle o gwmpas y dref ac mae galw wedi bod am ail-lansio’r cynllun er mwyn ei gwneud yn haws i siaradwyr Cymraeg o bob math gan gynnwys dysgwyr i wybod ble mae modd dechrau sgwrs yn Gymraeg yn hyderus.

A hithau’n Wythnos Cynnig Cymraeg Comisiynydd y Gymraeg yr wythnos hon mae Mentrau Iaith ardal ARFOR megis Cered yng Ngheredigion yn cynnal ystod o weithgareddau ac yn gwneud nifer o gyhoeddiadau cyffrous fel yr un yma i nodi’r achlysur.

Dros y misoedd nesaf hoffai Cered glywed gan drigolion a busnesau yr ardal am eu syniadau am ba fath o adnoddau fyddai o ddiddordeb i hyrwyddo’r cynllun hwn, e.e. sticeri ffenestr, bathodynnau, taflenni, posteri ayyb. Beth fyddai o ddiddordeb i chi? E-bostiwch eich syniadau i Cered ar cered@ceredigion.gov.uk

17/05/2023