Ar ddydd Iau 07 Gorffennaf, ymwelodd Jeremy Miles AS, y Gweinidog addysg a'r Gymraeg ag Aberystwyth i gael cyflwyniad i waith cymunedol Cered Menter Iaith y Sir.

Rhoddwyd croeso i’r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg gan y Cynghorydd Catrin M.S.Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb am Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid, Meinir Ebbsworth, Prif Swyddog Addysg a Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant a Non Davies, Rheolwr Corfforaethol Diwylliant tu allan i’r Bandstand yn Aberystwyth.

Gwahoddwyd y Gweinidog i'r Bandstand lle cafodd gyfle i chwarae'r Ukulele ac i gwrdd ag aelodau Grŵp Iwcadwli. Sefydlwyd Iwcadwli ddiwedd 2018 fel Cerddorfa iwcalili cyfrwng Cymraeg ar gyfer yr ardal. Y bwriad oedd adeiladu ar boblogrwydd yr Iwcalili, creu cyfleoedd cymdeithasol newydd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn modd hwyliog a hybu cerddoriaeth Gymraeg.

Roedd Sam Thomas, Cyfarwyddwr Radio Aber a Steff Rees, Arweinydd Tîm Cered yn bresennol i roi trosolwg o’r bartneriaeth rhwng Radio Aber a Cered gan gyfeirio’n benodol at raglen “Cefn y Rhwyd” sef rhaglen wythnosol Gymraeg am Chwaraeon, a hefyd am y cynllun Sgiliau Sylwebu.

Bu rhai o aelodau 'Ar Gered', sef Grŵp cerdded newydd ar gyfer gogledd Ceredigion, yn son am eu profiadau a’r budd o fod yn aelod. Mae’r teithiau yn rhoi cyfle i gyflwyno a thrafod natur a hanes yr ardal trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn rhoi cyfle i siaradwyr rhugl a dysgwyr gymdeithasu yn y Gymraeg.

Yn bresennol hefyd oedd dysgwyr o grŵp poblogaidd Bore Coffi Yr Hwb. Sefydlwyd y grŵp mewn partneriaeth â Fforwm Cymunedol Penparcau yn dilyn cais gan y gymuned am gyfle rheolaidd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y pentref.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd. Mae wedi bod yn wych ymweld â Cheredigion heddiw i weld sut mae pobl yn defnyddio ac yn dathlu ein hiaith. Mae mor bwysig bod pawb yn cael y cyfle i fwynhau’r Gymraeg, boed a ydynt yn rhugl, yn ddysgwyr neu yn gwbl newydd i'n hiaith.”

Cyflwynodd y Cynghorydd Catrin M.S.Davies ffilm yn amlinellu’r prosiect ‘Gorwel a Gwreiddiau’ sy'n brosiect ar y cyd rhwng Cered a Theatr Felinfach wedi’i ran-ariannu drwy arian Leader Cynnal y Cardi..Mae ‘Gorwel a Gwreiddiau’ yn brosiect cymunedol sy’n dod â phobl o bob oed a chefndir at ei gilydd mewn cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n edrych ar dreftadaeth ac etifeddiaeth ac yn ystyried agweddau cyfredol gyda’r bwriad o ddatgloi potensial y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M.S.Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Roedd gallu dangos gwaith Cered i’r Gweinidog yn bleser ac yn gyfle i ymfalchio yn yr holl brosiectau a gyflawnir gan y Fenter wrth gynnig cyfleoedd amrywiol i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau."

08/07/2022