Yn ystod mis Medi bydd Cyngor Sir Ceredigion yn ymgynghori ar ei Strategaeth Gorfforaethol newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf, sef 2022-27.

Rydym yn ceisio barn gan holl drigolion Ceredigion er mwyn helpu i lywio cyfleoedd yn y dyfodol i wella lles holl drigolion a chymunedau Ceredigion.

Mae’r Strategaeth Gorfforaethol ddrafft yn nodi blaenoriaethau’r Cyngor, a elwir yn Nodau Llesiant Corfforaethol, ynghyd â’n huchelgeisiau a’r camau i gyflawni’r rhain dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r Strategaeth yn llywio popeth y mae’r Cyngor yn ei wneud. Fe’i datblygwyd yn seiliedig ar adolygiad eang o dystiolaeth ac asesiadau anghenion, gan gynnwys Asesiad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion o Lesiant Lleol.

Y Nodau Llesiant Corfforaethol arfaethedig yw:

  1. Hybu’r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth
  2. Creu cymunedau gofalgar ac iach
  3. Darparu’r dechrau gorau mewn bywyd a galluogi pobl o bob oed i ddysgu
  4. Creu cymunedau cynaliadwy a gwyrdd ac sydd wedi’u cysylltu’n dda â’i gilydd

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Strategaeth Gorfforaethol newydd y Cyngor yn ddogfen bwysig i Geredigion. Mae’n nodi uchelgeisiau’r weinyddiaeth newydd a’r blaenoriaethau ar gyfer gwella lles dinasyddion a chymunedau Ceredigion. Byddwn yn annog holl drigolion a busnesau Ceredigion i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a dweud eu dweud. Bydd hyn yn helpu i lywio ein blaenoriaethau ac yn chwarae rhan hanfodol wrth wella lles i bawb yng Ngheredigion”.

I ddarllen y strategaeth, ewch i'r tudalen Strategaeth Gorfforaethol.

Mae’r ymgynghoriad ar agor am y mis nesaf a bydd yn dod i ben ar 30 Medi. Bydd eich ymatebion yn helpu i lywio fersiwn derfynol y Strategaeth Gorfforaethol a fydd yn cael ei hystyried gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 24 Tachwedd 2022.

I gael mynediad at yr arolwg ar-lein, cliciwch ar y ddolen isod: Ymgynghoriad ar Strategaeth Gorfforaethol Ddrafft Cyngor Sir Ceredigion 2022-27

Os oes angen i chi gysylltu â ni, neu os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformatau eraill, (er enghraifft print bras neu Hawdd ei Ddarllen), cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu drwy clic@ceredigion.gov.uk.

01/09/2022