Mae'r cais cynllunio (A220712) ar gyfer Prosiect Perthyn, Canolfan Casgliadau Treftadaeth, wedi cael ei dynnu nôl gan Gyngor Sir Ceredigion.

Mae datblygiad posibl o Ganolfan Casgliadau Treftadaeth yn ddyhead i'r Cyngor oherwydd ein bod yn cynnal casgliad gwerthfawr o ffeithiau sy'n rhan hanfodol o hanes a diwylliant Ceredigion. Fodd bynnag, ni ddilynodd cyflwyno'r cais cynllunio y broses ddyledus ac ni chafodd ei lofnodi ar y lefel briodol o reolaeth.

Mae’r Cyngor hefyd am gadarnhau nad oes bwriad ganddo i leihau ardal cwrt tennis allanol Canolfan Hamdden Plascrug, yn groes i gynllun y safle ar y cais cynllunio gwreiddiol. Mae'r Cyngor yn ymddiheuro am achosi unrhyw bryderon diangen.

11/10/2022