O fis Medi, bydd dysgwyr cymwys yng Ngheredigion yn derbyn cymorth ychwanegol. Mae Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad) yn helpu gyda gwisg ysgol, offer chwaraeon, offer ysgrifennu a dyfeisiau.

Yr wythnos diwethaf, datgelodd ymchwil gan Sefydliad Bevan fod y rhan fwyaf o bobl Cymru yn torri’n ôl ar eitemau hanfodol oherwydd costau byw cynyddol. Wrth i’r tymor newydd agosáu, mae Cyngor sir Ceredigion yn annog rhieni i wneud cais am y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Ysgolion: “Mae cyllid ar gyfer Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad) yn gam pwysig o ran atal arian rhag bod yn rhwystr i addysg plant. Rydym yn annog unrhyw un sy’n teimlo y gallen nhw fod yn gymwys i gysylltu â ni i gefnogi rhieni a dysgwyr drwy’r flwyddyn ysgol.”

Os yw eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd, efallai y bydd gennych hawl i gymorth ychwanegol. Os nad ydych eisoes wedi derbyn taliad, neu i weld a ydych yn gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim neu Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad) sy’n cynnwys cymorth ar gyfer gwisg ysgol, offer chwaraeon a dyfeisiau, ewch i: www.ceredigion.gov.uk/resident/schools-education/free-school-meals/

Hefyd, bydd Prydau Ysgol am Ddim yn cael eu cyflwyno i holl blant ysgolion cynradd Cymru dros y tair blynedd nesaf. I helpu’r dysgwyr ieuengaf cyn gynted â phosibl, bydd pob plentyn mewn Dosbarthiadau llawn-amser Meithrin, Derbyn, Blwyddyn 1 a 2 yn gallu derbyn Prydau Ysgol am Ddim o’r mis Medi hwn.

Mae’r polisi Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn rhan o Gytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a fydd yn gweld prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn i bob dysgwr cynradd dros y tair blynedd nesaf.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i llyw.cymru/darganfod-mwy-am-brydau-ysgol-am-ddim

17/08/2022