Mae Dydd Llun 19 Medi 2022 wedi cael ei nodi’n Ŵyl Banc Cenedlaethol ar gyfer Angladd Gwladol Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II.

Bydd Gŵyl y Banc yn caniatáu i unigolion dalu eu parch i'w Mawrhydi a choffáu ei theyrnasiad. Bydd y Cyngor yn cynnal ychydig iawn o wasanaethau gan y bydd yn Ŵyl y Banc Cenedlaethol.

Bydd y gwasanaethau canlynol ar gau ar ddydd Llun, 19 Medi

  • Canolfannau Hamdden
  • Hyfforddiant Ceredigion
  • Llyfrgelloedd Ceredigion
  • Pyllau nofio
  • Safleoedd Gwastraff Cartref
  • Swyddfeydd yr Harbwr
  • Ysgolion 

Casgliadau Gwastraff

I'r rhai sydd fel arfer yn cael eu gwastraff wedi’i gasglu ddydd Llun 19 Medi, mae trefniadau ar hyn o bryd yn cael eu gwneud i gasglu bagiau du, gwydr, ailgylchu a gwastraff bwyd ar ddydd Sadwrn 17 Medi. Rydym yn bwriadu casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol (CHA) sydd wedi’u trefnu ar gyfer dydd Llun ar ddydd Mawrth 20 Medi. 

Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol mewn Argyfwng 

  • 01970 625277 ar gyfer Gogledd y Sir
  • 01239 851604 ar gyfer De'r Sir. 

Dylai aelodau'r cyhoedd ond ffonio'r manylion cyswllt Priffyrdd a'r Gwasanaethau Amgylcheddol mewn Argyfwng mewn perthynas ag argyfyngau sy'n ymwneud ag Asedau ac Eiddo'r Cyngor, heb gynnwys tai.

Gwasanaethau Cymdeithasol mewn Argyfwng

Os oes gennych unrhyw bryderon o ran diogelwch a lles unigolion bregus neu blentyn, cysylltwch â rhif Gwasanaethau Cymdeithasol mewn Argyfwng ar:

  • 0300 4563554

Mae mwy o wybodaeth am gymorth mewn argyfwng ar gael drwy glicio i'r dudalen argyfwng yma.

Mae'n debygol y bydd cwmnïau bysiau lleol yn gweithredu gwasanaeth cyfyngedig.

14/09/2022