Mae cyffro mawr yn Theatr Felinfach eleni wrth iddynt ddathlu pen-blwydd arbennig yn 50 ym mis Mai. Mi fydd y dathliadau yn parhau ar draws y flwyddyn gyda llu o weithgareddau a digwyddiadau.

Dywedodd Dwynwen Lloyd Llywelyn, Pennaeth Theatr Felinfach: “Mae yna sawl rheswm i ddathlu. Nid yn unig dathlu pen-blwydd y theatr a’r cydweithio anhygoel rhwng cymunedau a’r ganolfan, ar draws hanner canrif. Mae hefyd yn flwyddyn o ddathlu dod at ein gilydd unwaith eto ar ôl cyhyd o fod ar wahân ac ar gau ac i ddechrau creu o’r newydd.”

I gychwyn y dathliadau mewn steil bydd noson arbennig o gerddoriaeth yn Gig Dathlu 50 Theatr Felinfach gyda neb llai ‘na Pwdin Reis a Bwca ar 13 Mai am 7:30yh. Byddwch chi ffaelu aros yn llonydd trwy’r nos!

Mae’n anodd credu fod yna bedair blynedd wedi mynd heibio ers i Pwdin Reis ffrwydro ar y sin fel blast o awyr iach o oes a fu. Y newyddion da yw bod y band sef Betsan Evans, Neil Rosser, Norman Roberts a Rob Gillespie yn gigio eto ar ôl dwy flynedd o rwystredigaeth. Os ydych yn chwilio am rywbeth gwahanol ac yn ffansio bach o rockabilly Cymraeg beth am drial bach o Bwdin Reis achos ma’ pawb yn gwybod pa mor neis yw Pwdin Reis.

Sefydlwyd Bwca yn 2017 gan Steff Rees o Aberystwyth fel ei brosiect cerddorol unigol ond ar ôl cyfnod o berfformio ar ben ei hun tynnodd fand at ei gilydd yn Hydref 2018 er mwyn gallu datblygu Bwca i’w lawn botensial. Ers sefydlu’r band mae Bwca wedi mynd o nerth i nerth gan berfformio eu caneuon bywiog a bachog mewn gigs a gwyliau ar draws y wlad o Ddolgellau a’r Bala yn y gogledd i Abertawe a Chaerdydd yn y de.

Dywedodd Betsan Evans, prif leisydd y band Pwdin Reis: “Mae Theatr Felinfach yn le sbesial iawn a ma’ ‘da fi lawer o atgofion melys o fynychu gweithdai a gweld sioeau a phantomeimau. Mae cael gwahoddiad i berfformio ar noson dathlu 50 mlynedd y theatr yn fraint fawr ac rydym ni fel band ffaelu aros i berfformio ar y noson.”

Cynhelir sioe ‘West’ yn Theatr Felinfach ar 27 Mai am 7:30yh. Mae’r sioe cyfrwng Saesneg yn teithio eto cyn dychwelyd i America i Ŵyl Hollywood yn LA. Mae’r sioe wedi ei ysgrifennu gan Owain Thomas awdur sioeau ‘Grav’, ‘Carwyn’ a ‘The Wood’. Cyfarwyddwyd gan Gareth John Bale yr actor a cyfarwyddwr sy’n adnabyddus o’i berfformiadau yn ‘Grav’ a ‘Nye a Jennie’ ac yn perfformio ar y cyd â Gwenllian Higginson sydd yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd theatrau Cymreig o’i pherfformiadau yn ‘Gwlad yr Asyn’ a ‘Merched Caerdydd.’ Mae 'West' yn sioe am fywyd gŵr a gwraig sy'n neud y penderfyniad anodd i adael Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg i ddechrau bywyd newydd yn America. Ni'n dilyn y ddau ac yn gweld y profiadau anodd a'r cyfnodau cyffrous trwy eu llygaid nhw. Mae'r ddrama yn trin themâu megis cariad, cartref, hiraeth a mewnfudo.

Wrth edrych ymlaen at yr Haf trefnwyd sioe haf Theatr Arad Goch yn y Theatr ym mis Mehefin sef ‘Twm Siôn Cati’ gan Jeremy Turner. Os ydych yn edrych am rywle i fynd a’ch ysgol ar drip Haf neu eisiau mynd a’r teulu neu ffrindiau i’r theatr bydd y sioe yn Theatr Felinfach ar ddydd Llun 27 am 1yp a Mawrth 28 am 10yb a 1yp. Yn y cynhyrchiad llwyddiannus hwn cewch gyfle i brofi bywyd Twm yn fyw ar lwyfan trwy storia, canu ac ymladd. Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â Thregaron yn yr haf, pa well amser i glywed hanes un o gymeriadau mwyaf eiconig yr ardal! Addas i blant oed 7+.

Bydd hefyd yr Eisteddfod Genedlaethol ar y stepen drws wrth i Geredigion groesawu’r Brifwyl rhwng y 30 o Orffennaf i 6 Awst. Mae’r Theatr yn edrych ymlaen at fedru cynnal amryw o weithgareddau a pherfformiadau yn ystod yr wythnos.

Mae’r Theatr hefyd yn estyn allan am aelodau newydd rhwng 7 ac 18 oed i ymuno a’r Ysgol Berfformio i greu sioe haf ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion. Mi fydd y sesiynau yn cychwyn ar 5 Mai. Cysylltwch am ragor o wybodaeth ar sut i ymuno yn rhad ac am ddim.

Am rhagor o wybodaeth ac am docynnau cysylltwch a’r swyddfa docynnau ar 01570 470697 neu drwy e-bost ar theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk

29/04/2022