Yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines, gosododd yr Arglwydd Raglaw Sara Edwards; Uchel Siryf Dyfed, Rowland Rees-Evans; a Chadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ifan Davies deyrnged o flodau gerllaw Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron.

Gall aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno gosod teyrngedau blodau wneud hynny trwy eu gosod mewn man penodol ar ardal werdd yn union gyferbyn a’r brif fynedfa, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, lle darllenir Cyhoeddiad am Frenin Newydd gan Uchel Siryf Dyfed, Rowland Rees-Evans am 12:30pm ddydd Sul 11 Medi 2022.

10/09/2022