Bydd Taith Baton y Frenhines Birmingham 2022 yn ymweld â Cheredigion ar 30 Mehefin fel rhan o’i siwrne drwy Gymru a Lloegr yr haf hwn.

Dyma’r unfed tro ar bymtheg i Daith Baton swyddogol y Frenhines gael ei chynnal ac mae’n cyd-fynd â Gemau’r Gymanwlad fydd yn digwydd yn Birmingham ym mis Gorffennaf. Bwriad y daith yw dod â chymunedau ar draws y Gymanwlad ynghyd a’u dathlu yn ystod y cyfnod cyn y Gemau. Yng Nghymru, bydd Taith Baton y Frenhines yn rhoi cyfle i gymunedau brofi cyffro Birmingham 2022, wrth i'r 11 diwrnod o chwaraeon gwefreiddiol agosáu.

Bydd Taith Baton y Frenhines yn treulio pum diwrnod yng Nghymru gan ddechrau ar Ynys Môn ddydd Mercher 29 Mehefin cyn teithio tua’r de. Bydd yr ymweliad â Chymru yn dod i ben yn Abertawe ddydd Sul 3 Gorffennaf. Bydd y baton wedyn yn dychwelyd i Loegr gan ymddangos am y tro olaf yn seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad yn Birmingham ar 28 Gorffennaf 2022.

Mae amserlen brysur o weithgareddau a digwyddiadau wedi'i threfnu ar gyfer Taith Baton y Frenhines a’r gobaith yw y bydd hyn yn gyfle i dynnu sylw at straeon arbennig cludwyr y Baton sy'n brwydro dros newid yn eu cymunedau.

Ar ôl cyrraedd Ceredigion, bydd Taith y Baton yn ymweld ag Aberystwyth a Chapel Bangor gan ymuno â thrafodaeth ynglŷn â newid hinsawdd gyda phlant ysgolion yr ardal a chwrdd ag athletwyr ‘Cardiau Aur’ Ceredigion, sydd wedi i’r brig mewn amrywiol gampau. Bydd y baton hefyd yn teithio ar drên stêm Rheilffordd Cwm Rheidol.

Dyma rai o’r gweithgareddau sydd wedi’u trefnu ar gyfer ymweliad y baton â Cheredigion:
• 14:00 - 14:20 - bydd Taith y Baton yn mynd o Ganolfan Hamdden Plascrug i Glwb Bowlio Aberystwyth (Plascrug)
• 14:30 - 15:30 – bydd Taith y Baton yn parhau gan fynd o Glwb Bowlio Aberystwyth (Plascrug) i Reilffordd Cwm Rheidol
• 15:45 – bydd Taith y Baton yn mynd ar y trên i Gapel Bangor

Bydd y Baton wedyn yn cael ei gludo o Gapel Bangor i Wersyll yr Urdd Llangrannog lle bydd yn aros dros nos cyn symud ymlaen i Sir Benfro ddydd Gwener 1 Gorffennaf.

Mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i ymuno â’r dathlu a chroesawu ymweliad y Baton â’r sir. Y llefydd gorau yn Aberystwyth i brofi gwefr Taith Baton y Frenhines Birmingham 2022 fydd Plascrug, Ffordd Alexandra a Choedlan y Parc . Bydd gwefan Tîm Cymru yn cael ei diweddaru dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau sydd i’w cynnal a’r mannau gorau i wylio taith y Baton: https://teamwales.cymru/cy/events/queens-baton-relay/

Dywedodd Catrin M.S. Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae croesawu’r Baton i Geredigion yn rhoi’r cyfle i ni ddangos ein sir ryfeddol i’r byd, dathlu ein hathletwyr llwyddiannus ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. Mae’r unigolion a fydd yn cludo’r Baton wedi’u dewis am yr hyn y maent wedi’i gyflawni, eu cefndiroedd amrywiol a’u straeon ysbrydoledig ac maent yn cynnwys y rheiny sydd wedi’u cydnabod am eu cyfraniadau amhrisiadwy i’w cymuned leol, boed hynny drwy chwaraeon neu drwy eu gwaith gwirfoddol. Gwych iawn.”

Un o’r rhai fydd yn cludo’r Baton yng Ngheredigion yw Anwen Butten, a gafodd ei henwebu am ei llwyddiant yn y byd bowlio. Anwen yw un o’r enwau amlycaf o Geredigion sydd wedi cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad gan ennill Medalau Efydd yn 2002 a 2010. Fel aelod o Dîm Bowlio Cymru ar gyfer Gemau Birmingham 2022, fydd Anwen yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad am y 6ed tro.

Bydd y Baton yn teithio ar y tir, drwy’r awyr ac ar y môr gan fynd o ddinasoedd bywiog i drefi marchnad hanesyddol ac o gefn gwlad godidog i arfordiroedd hyfryd.

Mae'r Baton eisoes wedi ymweld â chenhedloedd a thiriogaethau'r Gymanwlad yn Ewrop, Affrica, Ynysoedd y De, y Caribî a gwledydd America. Y Deyrnas Unedig yw rhan olaf y daith a bydd y Baton yn treulio pum diwrnod yn yr Alban, pedwar diwrnod yng Ngogledd Iwerddon a phum diwrnod yng Nghymru. Bydd wedyn yn dychwelyd i Loegr am yr wythnosau diwethaf cyn dechrau Gemau’r Gymanwlad.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Gemau'r Gymanwlad Cymru, Chris Jenkins, “Mae Taith Baton y Frenhines yn un digwyddiad rydw i bob amser yn mwynhau bod yn rhan ohono. Mae cael y cyfle i ni deithio ledled Cymru, ymgysylltu â phobl mewn cymunedau, a bod yn rhan o gymaint o wahanol ddigwyddiadau – mae wir yn dod â ni at ein gilydd fel gwlad, ac mae hyn yn sicr yn cryfhau’r gwaith o ennyn cefnogaeth ar gyfer Tîm Cymru yn Birmingham yr haf hwn. Mae'r trefnu a'r gwaith y mae'r holl Awdurdodau Lleol yn ei wneud i sicrhau bod y digwyddiadau'n ddiogel, yn ddiffwdan, ac yn bwysicaf oll yn ddiddorol ac yn hwyl yn cymryd misoedd o gynllunio, a hoffwn ddiolch i bawb sy'n gysylltiedig am eu hamser, eu hymroddiad a'u brwdfrydedd.’’

Gallai’r wybodaeth ynglŷn ag union drywydd y daith drwy Gymru newid.

13/06/2022