Gofynnir am farn y cyhoedd ar ddefnydd swyddfeydd yng Ngheredigion yn y dyfodol.

Yn dilyn cyflwyno Polisi Gweithio Hybrid Dros Dro, mae Cyngor Sir Ceredigion yn adeiladu gweithlu sydd â’r sgiliau a’r gallu i weithio mewn ffordd sy’n addas ar gyfer dyfodol y sefydliad. Mae profiad ffyrdd hybrid o weithio yn dangos bod staff yn parhau i addasu’r ffordd y maent yn gweithio a darparu gwasanaethau. Maent yn cyfuno gweithio o bell gydag amser yn y swyddfa a chwrdd â defnyddwyr gwasanaeth mewn amrywiaeth o leoliadau eraill.

Er bod y rhan fwyaf o wasanaethau'r Cyngor, megis ysgolion, gofal, hamdden, cynnal a chadw priffyrdd, glanhau strydoedd a chasgliadau gwastraff yn parhau fel ag yr oeddent, mae eraill bellach yn cael eu darparu mewn ffyrdd gwahanol, mwy effeithlon.

Gyda’r newidiadau hyn mae’n dod yn gliriach y bydd cyfleoedd sylweddol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus newydd neu ddarparu ar gyfer defnyddiau eraill yng Nghanolfan Rheidol yn Aberystwyth a Penmorfa a Neuadd y Sir yn Aberaeron.

Fel enghraifft o'r cyfleoedd, mae'r Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cytuno y dylid defnyddio rhan o'r llawr gwaelod yng Nghanolfan Rheidol i ddarparu gwasanaethau ffisiotherapi i gleifion allanol. Bydd hyn ar sail dros dro tra bydd y cyfnod prawf hybrid yn parhau. Bydd y Cyngor yn ystyried y defnydd amgen gorau o ofod y swyddfeydd yn y tymor hir.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Sefydliad: “Mae adborth staff wedi dangos bod gweithio hybrid wedi’i wreiddio mewn arferion gwaith, gyda buddion yn cynnwys mwy o gynhyrchiant, gwell cydweithio, hyblygrwydd wrth gydbwyso bywyd gwaith a chartref a helpu'r amgylchedd gyda llai o deithio. Mae ffyrdd digidol o weithio wedi gwella mynediad at wasanaethau i lawer o gwsmeriaid. Gyda niferoedd uchel o staff wedi dewis gweithio mewn ffordd hybrid, mae cyfleoedd sylweddol i drawsnewid y gofod a arferai gael ei ddefnyddio gan ddesgiau ac ystafelloedd cyfarfod i ddarparu ystod o ddefnyddiau newydd neu ddarparu gwasanaethau mewn ffordd fwy integredig, yn fewnol a gyda phartneriaid ac asiantaethau allanol.

“Dyma’r cam nesaf o ran addasu gofodau i ddiwallu anghenion y dyfodol. Mae hyn yn golygu newid a gwneud yr adeiladau yn darpariaeth gwasanaeth. Mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi profi y gellir darparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol. Hoffem gael eich barn a'ch syniadau ar y ffordd orau o ddefnyddio prif swyddfeydd/adeiladau'r Cyngor i helpu i lywio'r math o ddefnyddiau a fydd yn y gofodau hyn yn y dyfodol. Dyma’ch cyfle chi fel trigolion i ddweud eich dweud ar sut rydych chi eisiau gweld eich gwasanaethau cyhoeddus.”

Medrwch ddweud eich dweud drwy lenwi'r holiadur ar-lein, cael copi papur yng Nghanolfannau Hamdden a Llyfrgelloedd y Cyngor neu drwy ffonio Gwasanaethau Cwsmeriaid Clic ar 01545 570881. Mae'r arolwg ar agor tan ddydd Mawrth, 31 Ionawr 2023.

05/12/2022