Mae gwaith yn mynd rhagddo ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru a fydd yn cael ei chynnal yng Ngheredigion rhwng 30 Gorffennaf a 06 Awst 2022.

Cynhelir y digwyddiad yn Nhregaron ac mae Ceredigion gyfan yn paratoi i groesawu’r Eisteddfod hirddisgwyliedig i’n sir.

Bydd yr Eisteddfod yn arwain at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn ystod cyfnod prysur yr haf, ac wrth i ni baratoi i roi croeso cynnes i bawb, rydym am wneud y cyhoedd yn ymwybodol o amhariadau posibl ar wasanaethau.

Disgwylir cynnydd sylweddol yn nifer y traffig ar y rhwydwaith priffyrdd yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal ag yn ystod y cyfnod o osod a chlirio’r safle.

Gwasanaethau Bws Lleol

Er mai’r bwriad yw gweithredu gwasanaethau bws lleol fel y trefnwyd, mae’n debygol iawn y bydd rhywfaint o darfu ar y rhain, a fydd yn cynnwys amseroedd teithio estynedig. Bydd gweithredwyr bysiau Ceredigion yn gwneud pob ymdrech i leihau’r effaith ar y cyhoedd sy’n teithio.

Yn ogystal â’r gwasanaethau bws arferol, bydd gwasanaethau masnachol ychwanegol ar gael i’r Maes gan gwmnïau bysiau o Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan ac Aberaeron. I weld yr amserlenni ac archebu tocynnau, ewch i wefan yr Eisteddfod: https://eisteddfod.cymru/2022-bysiau

Casglu Gwastraff

Bwriedir darparu gwasanaethau casglu gwastraff fel y trefnwyd ar draws y rhan fwyaf o Geredigion yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 02 Awst 2022. Fodd bynnag, oherwydd y cynnydd yn nifer y traffig yn benodol yn Nhregaron, byddwn yn gwneud rhai newidiadau bach i drefniadau casglu lleol. Cysylltir yn uniongyrchol â'r rhai yr effeithir arnynt. Os na chysylltir â chi, cyflwynwch eich gwastraff, fel yr arfer, erbyn 08:00 ar y diwrnod casglu a drefnwyd.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys adnodd chwilio codau post a manylion unrhyw amhariadau ar wasanaethau, ar gael ar Biniau ac Ailgylchu - Cyngor Sir Ceredigion neu drwy gysylltu â Clic ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk

Traffig a threfniadau parcio lleol

Bydd mwy o swyddogion o Gyngor Sir Ceredigion yn bresennol yn Nhregaron yn ystod cyfnod yr Eisteddfod. Byddant yn rhoi cyngor a gwybodaeth wrth ymgymryd â gweithgareddau monitro.

Cynghorir gyrwyr i wirio’r cyfyngiadau parcio sydd ar waith cyn gadael eu cerbyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan y bydd newidiadau dros dro i’r cyfyngiadau parcio, y systemau unffordd a’r terfynau cyflymder sydd ar waith yn ystod y cyfnod hwn. A fyddech cystal â gyrru a pharcio’n ystyriol, yn gyfrifol ac yn gyfreithlon. 

Bydd arwyddion cyfeirio yn cael eu gosod mewn lleoliadau allweddol o fewn a thu allan i ffin y sir. Cynghorir modurwyr i ddilyn yr arwyddion a pheidio â dibynnu ar eu Sat Navs i gymryd unrhyw lwybrau byr neu lwybrau amgen. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyrraedd y Maes ar gael ar wefan yr Eisteddfod.

‘Gofal a rhagofal ychwanegol’

Y Cynghorydd Keith Henson yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon. Dywedodd: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Eisteddfod Genedlaethol Cymru i Geredigion, lle bydd wedi’i lleoli yn Nhregaron. Dyma gyfle gwych i hyrwyddo a dathlu’r sir. Er mwyn sicrhau digwyddiad llwyddiannus, hoffem alw ar bawb i gymryd gofal a rhagofal ychwanegol wrth deithio yn ystod y cyfnod prysur hwn. Mae diogelwch y cyhoedd o’r pwys mwyaf a hoffem ddiolch i bawb am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod prysur ond cyffrous hwn i Geredigion. Cadwch olwg hefyd ar y baneri, y bynting a’r arwyddion hardd a wnaed gan gymunedau Ceredigion i groesawu’r Eisteddfod. Mae’r sir yn llawn lliw a chyffro.”

Yn rhan o Caru Ceredigion hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth. Bydd hyn yn sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod ac yn sicrhau bod Ceredigion yn parhau i fod yn lle gwirioneddol wych i fyw ac ymweld ag ef.

13/07/2022