Bydd newidiadau i wasanaethau bws lleol yng Ngheredigion o ddydd Mawrth 3 Ionawr 2023 ymlaen.
Mae’r tendrau a dderbyniwyd yn rhan o broses gaffael ar gyfer gweithredu sawl gwasanaeth wedi dangos cynnydd sylweddol mewn costau. Mae hyn wedi arwain at ofyn am gynnydd sylweddol mewn lefelau cymhorthdal ar adeg pan fo cyllid cyhoeddus dan bwysau aruthrol. Mae’r costau uwch yn adlewyrchu’r heriau penodol sy’n effeithio ar y diwydiant bysiau ar hyn o bryd, sy’n cynnwys costau gweithredu sylweddol uwch, diffyg gyrwyr cymwys ar gael, ansicrwydd ynghylch dulliau ariannu yn y dyfodol yn ogystal â gostyngiad yn nifer y teithwyr a newid mewn ymddygiad teithio.
Mae nifer y teithwyr bysiau wedi bod yn gostwng ledled Cymru ac wedi haneru i bob pwrpas yn y cyfnod rhwng 1982, lle cafwyd 181 miliwn o siwrneiau gan deithwyr, a 2019/20 lle cafwyd 91 miliwn o siwrneiau gan deithwyr. Mae pandemig Covid-19 wedi effeithio ar hyn yn sylweddol, a gwelwyd gostyngiad i 26 miliwn o siwrneiau gan deithwyr yn 2020/21, sydd wedi cael effaith bellach ar hyfywedd gwasanaethau bysiau lleol.
Bydd gwasanaethau 22T (Aberystwyth-Pontarfynach), 27T (Penrhyncoch-Penbontrhydybeddau) a T29 (Cylch Tregaron), sy’n wasanaethau sy’n ymateb i’r galw, yn dod i ben ddiwedd mis Rhagfyr 2022. Mae hyn oherwydd y costau sylweddol sy’n gysylltiedig â’u darparu a’r lefel isel iawn sy’n eu defnyddio, sy’n cyfateb i lefelau anhyfyw o gymhorthdal cyhoeddus fesul siwrnai teithiwr.
Bydd newidiadau i’r amserlenni ar gyfer gwasanaethau a gellir gweld yma 525 (Aberystwyth-Ponterwyd), 526 (Aberystwyth-Penrhyncoch) a 585 (Aberystwyth-Tregaron-Llanbedr Pont Steffan). Mae’r amserlenni ar gyfer y gwasanaethau hyn, yn amodol ar gael eu cyflwyno gan y gweithredwyr a’u cymeradwyo gan y Comisiynydd Traffig. Mae’r amserlenni hyn yn seiliedig ar gynigion a gyflwynwyd gan y gweithredwyr bysiau lleol ac yn adlewyrchu’r hyn y gellir ei gyflawni’n weithredol gyda’r adnoddau sydd ar gael, o ran bysiau a gyrwyr, ar hyn o bryd.
Bydd gwasanaethau T21 (Aberystwyth-Llanafan-Tregaron) a 552 Cardi Bach (Ceinewydd-Aberteifi) yn parhau fel y maent ar hyn o bryd.
Mae’r holl gontractau hyn wedi’u dyfarnu ar sail 6 mis er mwyn caniatáu adolygiad ehangach.
Y Cynghorydd Keith Henson yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon. Dywedodd: “Hoffwn ddiolch i’r cwmnïau bysiau lleol am eu hymgysylltiad parhaus yn yr hyn sy’n amgylchedd gweithredu heriol iawn. Rydym yn parhau i weithio gyda hwy a rhanddeiliaid allweddol eraill gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, gan geisio atebion posibl a ffordd ymlaen. Mae gwasanaethau a rhwydweithiau bysiau yn ddeinamig ac yn destun newid. Mae newidiadau pellach yn debygol gan mai’r realiti yw, yn ogystal â phrinder adnoddau, mae swm y cymhorthdal sydd ei angen nawr i ddarparu’r gwasanaethau yn anfforddiadwy, yn anghyfiawnadwy ac yn anghynaladwy yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.”
02/12/2022