Mae’r Nadolig yn nesáu ac mae hynny’n golygu un peth yn unig yn Theatr Felinfach – mae’r Panto Nadolig rownd y gornel a chwmni actorion Felinfach yn aros amdanoch.
Dewch i ymuno â hwyl a sbri pantomeim Nadolig Cymraeg Theatr Felinfach rhwng 10 ac 17 Rhagfyr wrth i’r criw fynd ar antur fawr i’r Mynydd Bach. Dyma gadwyn o fryniau yng nghanol Ceredigion sy’n gartref i darddiad Afon Aeron, ynghyd â storfa o straeon, diwylliant, diwydiant a hanes Augustus Brackenbury a ‘Rhyfel y Sais Bach’.
Bydd cymeriadau cyfarwydd Deiana Ie-Na-Na, PC Wpsi Deisi, Mami, Tani Tychrug a chymeriadau newydd sbon yn aros amdanoch i fynd â chi ar y daith a chyfle i ymuno yn yr ‘hiss’ a’r ‘bww’ wrth wylio helyntion y dynion drwg.
Dyma gyfle i chi ddechrau ar ddathliadau’r Nadolig gyda ni yma yn Theatr Felinfach – a phwy a ŵyr, efallai y bydd Siôn Corn ei hun yn ymweld â ni.
Pwy fydd yn cipio’r dydd? Wel, dim ond un ffordd y cawn wybod.
Cynhelir y pantomeimiau ar:
- 10 Rhagfyr am 4pm
- 12-16 Rhagfyr am 8pm
- 17 Rhagfyr am 1pm, 4pm ac 8pm.
Prisiau’r tocynnau yw £10 | £8 | £6. Am ragor o wybodaeth ac am docynnau cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau rhwng 9:30am-4:30pm dydd Llun i ddydd Gwener ar 01570 470697 / theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk neu archebwch docynnau ar lein ar theatrfelinfach.cymru
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau Theatr Felinfach, dilynwch nhw ar y Cyfryngau Cymdeithasol ar @TheatrFelinfach; Facebook, YouTube, Trydar & Instagram.
02/12/2022