Mae Mannau Croeso Cynnes yn ymddangos ar draws Ceredigion.

Cadw’n gynnes, cadwch i siarad, cadwch i gymdeithasu

Mae’r argyfwng costau byw eisoes yn effeithio ar filiynau ledled y DU ac mae llawer o bobl yn dweud na fyddan nhw’n gallu troi eu gwres ymlaen y gaeaf hwn. Mae pobl sy'n gweithio gartref, rhieni â phlant ifanc, pobl anabl a phobl hŷn yn cael eu heffeithio'n arbennig ond mae llawer o Fannau Croeso Cynnes Ceredigion yn agored i bawb.

Mae Mannau Croeso Cynnes am ddim, yn gynnes, yn ddiogel ac yn groesawgar. Bydd pob gofod yn amrywio. Mae rhai, fel Ffynnon yn Llandysul, wedi'u sefydlu ar gyfer pobl sy'n gweithio gartref ar rai dyddiau ac ar gyfer pob oed, neu ar gyfer grwpiau oedran penodol ar ddiwrnodau eraill. Mae rhai, fel y Ganolfan Deulu yn Nhregaron, yn cynnig dod â rhieni â phlant ifanc a phobl hŷn at ei gilydd i gymdeithasu a rhannu pryd o fwyd.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ardal i weithio, fel bod unigolion yn medru gweithio mewn swyddfa yno am y diwrnod tra bod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig ardal i weithio ynghyd ag ardal lle gall pobl gwrdd yn anffurfiol dros baned ar ei champws yn Llanbed. Bydd gan bob un wybodaeth i'w rhannu am gymorth a chyngor arall sydd ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion gyda chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Rydym yn gweithio gyda CAVO i wneud i hyn lwyddo, ond sêr y stori hon yw pob un o’r grwpiau cymunedol ar draws Ceredigion sy’n cynnig Man Croeso Cynnes y gaeaf hwn. Rwy’n argymell bod pawb yn edrych ar y map rhyngweithiol sy’n dangos ble gallwch chi ddod o hyd i’ch Man Croeso Cynnes agosaf ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar i bawb sy’n cefnogi’r ymgyrch hon.”

Mae cronfa gyfyngedig o arian ar gael i gyfrannu at gost rhedeg Man Croeso Cynnes a gweithgareddau. Dywedodd Hazel Lloyd-Lubran, Prif Weithredwr CAVO: “Rydym yn annog grwpiau cymunedol i gysylltu â ni yn CAVO i drafod sefydlu Man Croeso Cynnes ac unrhyw ofynion ariannu a allai fod gennych. Mae hefyd yn bwysig iawn ein bod yn gwneud yn siŵr nad ydym yn gwneud pobl yn agored i firws ffliw y gaeaf a Covid-19. Mae gennym gyngor a thempledi y gallwn eu rhannu i leihau'r risg hon. Rydym hefyd wedi bod yn siarad â Bwcabus sy’n awyddus i helpu i ddod â phobl i’r Mannau Croeso Cynnes, yn enwedig o’n hardaloedd mwy gwledig yn y Sir.”

Mae’r wybodaeth i’w gweld ar dudalen Mannau Croeso Cynnes neu ffoniwch Gwasanaethau Cwsmer Clic a holwch am y Mannau Croeso ar 01545 570881 neu CAVO ar 01570 423232.

Llun: Man Croeso Cynnes Neuadd Rhydypennau sydd ar agor bob bore dydd Gwener rhwng 10yb a 12yp.

17/11/2022