Dydd Mercher 19 Hydref, daeth y cyflwynydd Matt Baker, criw Plant Mewn Angen, a BBC Breakfast i Aberystwyth ar gyfer achlysur arbennig i arwr lleol.

Cymerodd Kai Frisby, sy’n 16 oed ac sydd â pharlys yr ymennydd, ran yn Her Rickshaw BBC Plant Mewn Angen gyda Matt Baker. Yr her i Kai oedd seiclo o Ganolfan Hamdden Plascrug i Gapel Bangor a dychwelyd i lan môr Aberystwyth.

Mae Kai, sy’n ddisgybl yn Ysgol Penglais, yn aelod poblogaidd a dylanwadol o glwb pêl-fasged cadair olwyn Aberystwyth, ac yn lysgennad i’r Mighty Ducks. Mae Kai yn chwarae i Gymru ar lefel rhyngwladol, ac fe’i gwelir yn aml yn chwarae ar gyrtiau ar draws Ceredigion a thu hwnt.

Mae Kai wedi elwa o’r ymgyrch Plant Mewn Angen yn y gorffennol. Roedd cael y cyfle i gymryd rhan, cyfrannu at her 2022 a chodi arian yn fraint ac yn anrhydedd iddo. Enwebwyd Kai gan ei brif hyfforddwr Lee Coulson.

Dywedodd Lee Coulson: “Mae Kai wedi bod yn mynychu’r clwb ers dros 7 mlynedd ac mae'r hyn y mae wedi ei gyflawni yn y gamp wrth chwarae i dîm rhyngwladol Cymru, a fel llysgennad, wedi bod yn eithriadol. Mae Kai wedi dangos nad oes ots pa anabledd sydd gennych chi, mae’n bosibl i chi gyflawni unrhyw beth.”

Ychwanegodd Lee: “Roedd Her Rickshaw yn mynd i fod yn un anodd iawn, gan fod Kai yn defnyddio cadair olwyn llawn amser a ddim yn defnyddio ei goesau o ddydd i ddydd. Roedd yn brofiad anhygoel i Kai ac yn gyfle gwych i ni godi proffil pêl-fasged cadair olwyn. Rydyn ni'n gobeithio y bydd yn annog pobl sydd ag anableddau a’r rhai heb anableddau i roi cynnig ar y gamp anhygoel yma. Roedd Kai yn gweld y diwrnod yn galed yn emosiynol ac yn gorfforol, ond fe wnaeth e fwynhau’r profiad yn fawr. Roedd y gefnogaeth yn lleol yn anghredadwy gyda phobl yn cefnogi ar hyd y daith gyfan. Roedd y daith ychydig dros 12 milltir a dyw e erioed wedi seiclo'r pellter hwnnw o'r blaen. Cafodd gefnogaeth pob cam o’r ffordd gan y Tîm Plant Mewn Angen a’i ffisiotherapydd Caryl er mwyn gallu cyflawni'r her.”

Dywedodd Kai: “Roedd Her Rickshaw yn gyfle gwych i mi ac roeddwn i wrth fy modd gyda’r profiad. I ddechrau, fe wnaethon nhw gysylltu â mi am eu bod nhw wedi bod yn cefnogi clwb pêl-fasged cadair olwyn Aberystwyth ers amser maith. Ro’n i braidd yn amheus ar y dechrau am y rheswm amlwg fy mod i mewn cadair olwyn a doeddwn i ddim yn hyderus iawn ar feic. Ar ôl sylweddoli y byddai angen i mi seiclo 12 milltir, roeddwn i’n pryderu braidd, gan nad ydw i erioed wedi seiclo’r pellter hwnnw o’r blaen. Fodd bynnag, dw i’n credu yr oeddwn i’n poeni am ddim rheswm oherwydd cyn gynted ag y dechreuais, diflannodd y pryder.

“Roedd yn wych gweld y gefnogaeth aruthrol, yn enwedig gan yr ysgol, ac fe wnes i fwynhau fy amser gyda Matt Baker yn fawr. Ni allaf ddiolch digon i’r tîm anhygoel am yr hyn a wnaethant i mi, a dw i wedi gwneud cysylltiadau gwych gyda beicwyr eraill. Roedd hi’n bleser cwrdd â nhw a chlywed eu straeon yn ogystal â chael rhannu fy stori fy hun. Dwi’n ddiolchgar iawn am y cyfle a dw i mor falch o bawb a gymerodd ran. Dwi’n edrych ymlaen at weld faint o arian rydyn ni wedi ei gasglu.”

Dywedodd rhieni Kai: “Mae Kai wedi cael ei gefnogi gan nifer o wahanol elusennau yn ystod ei fywyd, a phan gododd cyfle mor gyffrous â’r un yma, doedd e ddim yn gallu dweud na. Roedd yn gyfle mor wych i roi rhywbeth yn ôl a helpu i godi arian tuag at elusen sy’n cefnogi cymaint o bobl. Rydym yn hynod falch ohonot Kai, llongyfarchiadau.”

Cynghorydd Catrin M. S. Davies yw’r Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden. Dywedodd: “Mae'n wych bod Kai wedi cyflawni'r fath her uchelgeisiol. Mae’n amlwg bod Kai nid yn unig yn athletwr neilltuol ond yn unigolyn dewr ac y mae'n esiampl i ni i gyd. Llongyfarchiadau mawr i ti Kai a diolch am roi Ceredigion ar fap BBC Children in Need.”

Bydd rhaglen ddogfen arbennig yn cael ei darlledu ar BBC One ddydd Mawrth, 15 Tachwedd a bydd yn rhannu straeon rhyfeddol y tîm ac hefyd yn dathlu hanes Her Rickshaw.

Ewch i www.bbcchildreninneed.co.uk/shows/rickshaw-challenge/ am fwy o wybodaeth.

11/11/2022