Sefydlwyd pedwar Hwb Casglu Sbwriel newydd yng Ngheredigion.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ffurfio partneriaeth gyda Cadwch Gymru'n Daclus er mwyn sefydlu'r hybiau hyn i gael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau.

Mae'r Hybiau Casglu Sbwriel wedi'u lleoli yn llyfrgelloedd y Cyngor yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan. Mae gan yr Hybiau yr holl offer sydd ei angen i lanhau yn ddiogel: codwyr sbwriel, siaced lachar, bagiau sbwriel a chylchoedd i gadw'r bagiau ar agor.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb ar gyfer Diogelu'r Cyhoedd: “Bydd yr hybiau casglu sbwriel hyn yn galluogi mwy o bobl i gymryd rhan yn lleol i leihau sbwriel a gwneud Ceredigion yn amgylchedd iachach a glanach i fyw ynddo. Gobeithio y bydd yn annog hyd yn oed mwy ohonom i fod yn gasglwyr sbwriel gwirfoddol.”

Gall unigolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol a busnesau fenthyg yr offer codi sbwriel am ddim. 

I ddefnyddio’r offer, llenwch y ffurflen archebu ar-lein ar ein gwefan ar www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/biniau-ac-ailgylchu/codi-sbwriel-ar-gyfer-gwirfoddolwyr/cais/ a chasglu'r offer o'ch hwb dewisol.

17/11/2022